Mae’n anochel y bydd y galw am wasanaethau statudol amddiffyn plant yn cynyddu yn sgil gofyn i bobl aros gartref gyda’i gilydd. Sut rydych chi’n cadw plant, pobl ifanc, rheini a gweithwyr cymdeithasol yn ddiogel ar adeg pan fyddai ymweld â’r cartref yn anorfod yn torri rheolau cadw pellter cymdeithasol y llywodraeth?
Ar hyn o bryd, mae cynllun amddiffyn plant gan dros 52,000 o blant yn Lloegr – mae’r wladwriaeth yn ystyried bod risg sylweddol o niwed i’r plant hyn. Dywed canllawiau statudol fod yn rhaid i weithwyr cymdeithasol ymweld yn rheolaidd â’r plant hyn a’u rheini yn rheolaidd. Yn y rhan fwyaf o awdurdodau lleol, bob pythefnos yw hyn.
Mae opsiwn o hyd i rieni plant agored i niwed anfon eu plant i’r ysgol neu i feithrinfa, ond dywed tystiolaeth gynnar mai yn anaml iawn y mae hyn yn digwydd. Os yw teuluoedd eisoes yn ei chael hi’n anodd, mae cael eu cyfyngu i’w cartref am 30 awr ychwanegol yr wythnos yn anochel yn mynd i ychwanegu pwysau.
Felly, i weithwyr cymdeithasol sydd eisoes â baich gwaith trwm, mae’n ymddangos y bydd y straen y mae pandemig Covid-19 yn ei osod ar y system yn golygu y bydd yn rhaid iddynt weithio’n galetach fyth.
Ac, o gofio canllawiau’r llywodraeth ar gadw pellter cymdeithasol, bydd yn rhaid iddynt ddarganfod ffordd wahanol o weithio. Mae technoleg yn newid y ffordd y mae bywyd gwaith pob un ohonom wedi’i alluogi ar hyn o bryd, a gallai eto gynnig atebion i waith cymdeithasol.
Ond, a allai defnyddio mwy o fideo-gynadledda, y mae’r defnydd ohono wedi tyfu’n sylweddol o dan y cyfyngiadau, beri risgiau i’r system gwaith cymdeithasol o ran cyfrinachedd a diogelwch?
Yn y cyd-destun hwn, mae Covid-19 wedi dwyn ystyriaethau moesegol difrifol iawn i sylw llunwyr polisïau, uwch-reolwyr awdurdodau lleol a gweithwyr cymdeithasol rheng flaen.
Beth yw’r risgiau i weithwyr cymdeithasol rheng flaen?
Canllaw’r llywodraeth yw i ni gyd gadw 2 fetr oddi wrth ein gilydd, ond byddai hyn yn anodd yn y rhan fwyaf o dai a fflatiau maint arferol. Os meddyliaf am fy sefyllfa i fy hun gartref; beth pe bai angen i mi gael ymweliad gan weithiwr cymdeithasol?
Rydym ni’n deulu o bump, gyda dau blentyn bach. Mae fy mhlentyn pedair oed i’n llawn bywyd, a gallai benderfynu rhedeg o un ystafell i ystafell arall ar amrantiad; byddai’n dra heriol ceisio cadw dau fetr oddi wrtho ef. Hefyd, nid yw’n gwbl hyddysg yn ei foesau eto – fe allai weiddi (ac felly anfon mân ddiferion o boer i’r byd) neu disian heb roi ei law dros ei geg. Bach iawn o wybodaeth sydd ar gael am y posibilrwydd bod plant yn cario’r feirws, ond beth os yw e’n ei gario? Sut byddai ymwelydd â’n cartref yn amddiffyn ei hun rhag peryglon y pandemig presennol?
Hefyd, mae maint y cartref y gallai ymwelydd iechyd ymweld ag ef i’w ystyried. Byddai cadw pellter cymdeithasol yn arbennig o anodd mewn tai a fflatiau llai o faint.
Nid yw’r llywodraeth wedi cyhoeddi arweiniad penodol ar ymweliadau â’r cartref ar gyfer gweithwyr cymdeithasol, gan ddweud yn unig y dylai awdurdodau lleol benderfynu drostynt eu hunain, gan ystyried cyngor Public Health England am gadw pellter cymdeithasol.
Mae canllawiau newydd yr Adran Addysg a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf yn datgan “pan fydd gweithwyr cymdeithasol a staff eraill yn ymweld â chartref pobl, nid oes angen cyfarpar diogelu personol (PPE) oni bai bod gan y bobl yn y cartref symptomau Coronafeirws (COVID 19) neu ddiagnosis wedi’i gadarnhau bod ganddynt Goronafeirws (COVID 19)”.
Fodd bynnag, dywed cyngor swyddogol Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ei bod hi’n “bosibl dal Covid-19 gan rywun sydd, er enghraifft, ag ychydig o beswch ysgafn ac nad yw’n teimlo’n sâl”. Felly, yn ôl yr WHO, mae risg y gallai aelodau’r teulu heintio gweithwyr cymdeithasol neu fel arall yn ystod ymweliadau â’r cartref. Yn amlwg, mae hyn yn bryderus iawn i weithwyr cymdeithasol a gweithwyr proffesiynol allweddol eraill sy’n ymweld â chartrefi pobl, ac i’r teuluoedd y maent yn ymweld â nhw hefyd. Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd gofal i’w gweithwyr cymdeithasol, ond o dan yr amgylchiadau presennol, sut gallant sicrhau bod gweithwyr cymdeithasol yn ddiogel wrth gynnal ymweliadau â’r cartref? At hynny, mae gwerthoedd gwaith cymdeithasol yn amlygu mai ein pwynt cychwyn yw peidio â gwneud niwed. Yn y sefyllfa bresennol, sut gallwn ni gynnal ymweliadau â’r cartref yn ddiogel pan allai fod gennym symptomau ac rydym yn ymweld â theuluoedd y gallem eu heintio?
Mae cael PPE ar frig rhestr o bryderon mewn arolwg gan Gymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain (BASW), sydd wedi cael ymatebion gan fwy na 1000 o ymarferwyr. Pan ofynnais yn ddiweddar i weithiwr cymdeithasol pa PPE oedd ar gael, ei hateb oedd ‘hylif diheintio dwylo’. Ymddengys fod prinder mawr yn genedlaethol o PPE i weithwyr cymdeithasol.
Mae defnyddio cyfarpar diogelu personol (PPE) yn peri heriau pellach i weithwyr cymdeithasol. Mae dwy broblem gyda hyn – ei argaeledd mewn cyfnod o alw cynyddol a’r effaith y gallai ei chael ar y teuluoedd rydym ni’n ymweld â nhw.
Hyd yn oed pe bai awdurdodau lleol yn gallu dod o hyd i PPE addas a fyddai’n cynnig yr amddiffyniad mwyaf cynhwysfawr – efallai gorchudd persbecs i’r wyneb, ffedog blastig a menig plastig, sut byddai plant a rhieni’n teimlo am ymwelwyr yn galw heibio’n edrych fel llawfeddygon?
Yn amlwg, mae hyn yn mynd i’w gwneud hi’n anodd iawn i weithwyr cymdeithasol feithrin ffydd mewn gweithwyr cymdeithasol gyda rhieni a phlant, yn enwedig pan fydd teuluoedd, yn hanesyddol, wedi bod yn amharod i roi eu ffydd mewn gweithwyr cymdeithasol.
A all technoleg helpu?
Mae’r gweithwyr coler wen hynny nad oeddent eisoes yn gyfarwydd ag apiau fideo-gynadledda cyn y pandemig presennol wedi gorfod ymgyfarwyddo’n gyflym â’r dechnoleg sydd ar gael dros y pythefnos diwethaf. A allai gynnig atebion i waith cymdeithasol hefyd?
Yn sicr, mae angen rhai canllawiau clir. Heriau pellach i weithwyr cymdeithasol, y mae llawer ohonynt yn gweithio o gartref, yw y bydd awdurdodau lleol yn disgwyl iddynt osod cyfyngiadau ar aelodau o’u teulu i osgoi’r risg wirioneddol y gallai plant, partneriaid neu gydletywyr glywed neu weld gwybodaeth gyfrinachol am blant sydd mewn perygl o niwed sylweddol.
Efallai y bydd gan rai gweithwyr cymdeithasol ystafelloedd y gallant eu neilltuo at ddibenion o’r fath ar adegau penodol ond, wrth reswm, bydd hyn yn fwy anodd i’r gweithwyr cymdeithasol hynny sy’n byw mewn cartref llai o faint.
O ran y feddalwedd ei hun, WhatsApp yw’r unig blatfform sydd wedi’i amgryptio, yn ôl cyhoeddusrwydd mawr, gan olygu bod y data fideo a sain yn ddiogel rhag cael ei fonitro gan drydydd parti.
Nid yw’r platfform, sydd wedi’i addasu fel y mae at ddefnydd ffonau symudol ac, felly, wedi’i gyfyngu gan faint yn sgrîn, yn ddewis delfrydol ar gyfer galwadau grŵp. Fodd bynnag, dywedwyd ei fod yn ddull defnyddiol i rieni a phlant gyfathrebu â gweithwyr cymdeithasol (er enghraifft) i’w dangos o gwmpas y tŷ, os ystyrir bod angen hynny.
Mae digon o weithwyr sy’n addasu i weithio gartref wedi ymgyfarwyddo â Zoom, ond gyda phoblogrwydd y daw craffu – a chodwyd amheuon am ddiogelwch Zoom.
Hefyd, mae ffenomen newydd bomio Zoom, lle y mae trydydd partïon yn hacio cyfeiriadau e-bost i ddod o hyd i fanylion ymuno ac yn ymyrryd â chyfarfodydd i darfu. Mae’n her newydd i’n hadrannau TG.
Mae rhai arwyddion cynnar o arfer diddorol a blaengar iawn, gan gynnwys cynnal cynadleddau amddiffyn plant drwy Skype, gyda’r rhieni’n bresennol yn swyddfeydd yr awdurdod lleol.
Mae gweithwyr cymdeithasol wedi arfer bod yn greadigol i sicrhau bod hawliau plant a rhieni (ynghyd â’u diogelwch eu hunain) yn cael eu cynnal. Felly, mae’n gwbl bosibl y bydd technoleg newydd yn galluogi creadigrwydd o’r fath ymhellach gan ganiatáu i weithwyr cymdeithasol feithrin perthnasoedd cynhyrchiol gyda phlant a rhieni, ond ni ddylid gwneud yn fach o’r heriau.
Ar hyn o bryd, mae’r llywodraeth yn gosod llawer o gyfrifoldeb ar awdurdodau lleol i gadw plant yn ddiogel mewn amgylchiadau anodd iawn, ond nid yw’n ymddangos bod rhyw lawer o arweiniad clir ar sut y dylent wneud hyn.
Mae angen i’r llywodraeth weithredu’n gyflym i roi cyllid ychwanegol ac arweiniad clir i awdurdodau lleol ynghylch sut y dylent gadw plant agored i niwed yn ddiogel a sicrhau bod staff a theuluoedd wedi’u hamddiffyn rhag haint COVID 19 hefyd.
Ond, a allai defnyddio mwy o fideo-gynadledda, y mae’r defnydd ohono wedi tyfu’n sylweddol o dan y cyfyngiadau, beri risgiau i’r system gwaith cymdeithasol o ran cyfrinachedd a diogelwch?
Decision Making in Child and Family Social Work gan Clive Diaz, ar gael ar wefan Policy Press Rhagarchebwch yma am £19.19
Clive Diaz – Cardiff University
@diaz_clive
Cyhoeddwyd y blog hwn yn wreiddiol gan Policy Press