Mae Lauren Hill a Clive Diaz o Brifysgol Caerdydd wedi cynnal ymchwil i weld sut gallai stereoteipiau rhyw effeithio ar y cymorth a gynigir i bobl ifanc sydd mewn perygl o gamfanteisio’n rhywiol ar blant. Mae’r blog hwn yn rhoi crynodeb o’u canfyddiadau. Gellir lawrlwytho’r papur ymchwil llawn isod.
O ganlyniad i achosion proffil uchel yn Rotherham a Rochdale yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r cyhoedd bellach yn fwy ymwybodol o beth yw camfanteisio’n rhywiol ar blant. Mae camfanteisio’n rhywiol ar blant hefyd wedi dod i’r amlwg fel maes allweddol sy’n cael sylw gwleidyddol a phroffesiynol, a chyhoeddwyd ei fod yn fygythiad cenedlaethol, hyd yn oed, gan lywodraeth glymblaid San Steffan yn 2015. Ond, yn hanesyddol, mae’n parhau i fod yn syniad cymharol newydd. Mae ymchwilwyr wedi canfod y gallai camfanteisio’n rhywiol ar blant aros ynghudd mewn llawer o achosion gan nad yw dioddefwyr yn adrodd am eu profiadau, efallai oherwydd stigma, teimladau o gywilydd a/neu ofn, neu oherwydd nad ydynt yn cysylltu eu profiad â chamfanteisio ac felly ddim yn sylweddoli eu bod yn ddioddefwyr (Mason-Jones a Loggie, 2019).
Er nad ydym yn gwybod faint yn union o bobl ifanc sydd mewn perygl o gamfanteisio’n rhywiol ar blant, canfu Berelowitz et al. (2013), rhwng mis Awst 2010 a mis Hydref 2011, fod 16,500 o blant a phobl ifanc yn Lloegr mewn ‘perygl uchel’ o hynny. Mae’r amcangyfrif hwn yn cyd-fynd ag ystadegau diweddarach a gyhoeddwyd gan yr Adran Addysg (2016). Yn ôl y Ganolfan Camfanteisio ar Blant a’u Hamddiffyn Ar-lein (CEOPC), mae mwyafrif y dioddefwyr y gwyddys amdanynt rhwng 14 a 15 oed ac yn wyn. At hynny, mae nifer o astudiaethau wedi canfod bod mwyafrif y dioddefwyr y gwyddys amdanynt yn ferched (CEOPC, 2013; Jay, 2014; Coy, 2016), a chanfu Hallett et al. (2019) fod merched saith gwaith yn fwy tebygol o brofi camfanteisio’n rhywiol ar blant na bechgyn.
Er y gallai gwahaniaethau gwirioneddol fodoli rhwng y rhywiau o ran dioddefwyr camfanteisio’n rhywiol ar blant, mae’n bwysig tynnu sylw at y ffaith bod rhai grwpiau dioddefwyr (fel bechgyn a’r rhai hynny o grwpiau lleiafrifoedd ethnig) yn debygol o gael eu tangynrychioli yn y ffigurau hyn o ganlyniad i rwystrau rhag adrodd a chael at wasanaethau. Gallai gogwyddiadau, rhagfarnau a chredoau ystrydebol posibl gweithwyr proffesiynol gyfyngu ar eu gallu i adnabod camfanteisio’n rhywiol ar blant hefyd, sy’n rhywbeth a archwiliwyd gennym yn ein gwaith ymchwil.
Sut mae stereoteipio ar sail rhyw yn digwydd yn ymarferol
Mae ymarferwyr yn dibynnu ar lwybrau byr gwybyddol (fel stereoteipiau) mewn cyd-destunau proffesiynol, ac mae ymchwil yn awgrymu’n syml mai dyma sut mae pobl yn gweithio gan fod stereoteipiau’n helpu unigolion i drefnu a symleiddio eu bydoedd cymdeithasol. Yn ôl theori categoreiddio, a luniwyd gyntaf gan Allport (1954), mae’r broses o ffurfio canfyddiad o unigolion yn cynnwys eu gosod yn y categorïau cymdeithasol ehangach (fel rhywedd) y maent yn perthyn iddynt. Wrth wneud hyn, mae’r credoau ystrydebol sydd gennym am grŵp cymdeithasol penodol yn cael eu cymhwyso i holl aelodau’r grŵp (Banaji et al., 1993).
Mae credoau ystrydebol yn cael eu datblygu trwy broses o gymdeithasoli. Mae’r broses gymdeithasoli yn dechrau o enedigaeth, ac mae’n cynnwys dod i gysylltiad â normau, ideolegau a stereoteipiau rhywedd, sy’n cael eu trosglwyddo o fewn a rhwng teuluoedd, cyfoedion, cysylltiadau cymdeithasol ehangach a diwylliant (Carter, 2014).
A yw credoau ystrydebol yn cadw dioddefwyr camfanteisio’n rhywiol ar blant ynghudd?
Mae nifer o sylwadau a roddwyd gan y rhai a gymerodd ran yn ein hastudiaeth yn ymddangos fel petaent yn ategu gwaith ymchwil blaenorol, a ganfu fod ymarferwyr yn dangos rhagfarnau diarwybod o fewn cyd-destun proffesiynol, a bod hyn yn gallu dylanwadu ar ffactorau fel gwneud penderfyniadau ac asesu (Kirkman a Melrose, 2014; Blumenthal-Barby a Krieger, 2015).
Yn 2013, casglodd yr ymchwilwyr Berelowitz et al. (2013) ddata ansoddol gan 74 o ymarferwyr. Canfu’r ymchwilwyr fod ymarferwyr yn aml yn methu adnabod dioddefwyr gwrywaidd camfanteisio’n rhywiol ar blant gan nad oeddent yn cydymffurfio â’u credoau ystrydebol mai ‘dim ond merched sy’n dioddef yr ymosodiadau hyn’ (Berelowitz et al., 2013, t.56). Dywedodd yr ymarferwyr a gyfwelwyd gennym eu bod yn credu y gallai stereoteipiau rhyw effeithio ar y ffordd y mae gweithwyr proffesiynol yn gweithio gyda dioddefwyr camfanteisio’n rhywiol ar blant.
Yn benodol, awgrymodd y cyfranogwyr y gallai stereoteipiau ynghylch gwrywdod achosi i ymarferwyr ystyried bod bechgyn yn llai tebygol o fod mewn perygl camfanteisio’n rhywiol ar blant, ac felly bod arnynt angen llai o amddiffyniad a chymorth. Teimlai’r cyfranogwyr fod hyn yn gallu achosi i ymarferwyr fod yn arafach a/neu’n llai tebygol o adnabod bechgyn fel dioddefwyr camfanteisio’n rhywiol ar blant, yn ogystal â bod yn llai tebygol o ddarparu cymorth ac ymyrraeth effeithiol i ddioddefwyr gwrywaidd. Felly, mae ein canfyddiadau hefyd yn cyd-fynd â chanfyddiadau McNaughton Nicholls, Harvey, a Paskell (2014), a ganfu fod ymarferwyr yn aml yn ystyried bod bechgyn yn llai agored i gamfanteisio’n rhywiol ar blant na merched.
Er bod yr astudiaeth hon ar raddfa fach, dyma’r astudiaeth gyntaf i archwilio stereoteipiau rhyw yn benodol yng nghyd-destun camfanteisio’n rhywiol ar blant, felly mae’r prosiect ymchwil hwn wedi cyfrannu rhai canfyddiadau newydd i’r sail dystiolaeth gymharol annatblygedig yn y maes hwn.
Sut gallwn ni fynd i’r afael â rhagfarn ddiarwybod er mwyn sicrhau arferion gwell?
Un ffordd a awgrymwyd o leihau effaith stereoteipiau rhyw ar ymarfer yw rhoi cyfle i ymarferwyr eu cydnabod a myfyrio’n feirniadol arnynt mewn amgylchedd anfygythiol ac anfeirniadol (Hannah a Carpenter-Song, 2013). Gellir dadlau y bydd hyn yn lleihau’r tebygolrwydd y bydd ymarferwyr yn amddiffyn neu’n gwadu eu rhagfarnau. Mae hyn yn bwysig, oherwydd wedi i ymarferwyr gydnabod eu rhagfarnau, gallant ddatblygu strategaethau i’w lleihau (Teal et al., 2012).
Tynnwyd sylw at bwysigrwydd myfyrio beirniadol wrth oresgyn rhagfarnau gan Munro hefyd (2011, t.90), a ddywedodd fod ‘angen her feirniadol gan eraill i helpu gweithwyr cymdeithasol sylwi ar ragfarnau o’r fath a’u cywiro’. Argymhellodd Munro (2011) mai’r ffordd orau o gyflawni myfyrio beirniadol yw trwy drafodaethau ag eraill, er enghraifft yn ystod goruchwyliaeth.
Gellir cyflawni ymwybyddiaeth uwch o stereoteipiau rhyw hefyd trwy hyfforddiant rhagfarn ddiarwybod, sy’n ceisio cynyddu ymwybyddiaeth ymarferwyr o’u rhagfarnau diarwybod ac addysgu strategaethau lleihau rhagfarn. Er nad oes llawer o ymchwil sy’n archwilio effeithiolrwydd hyfforddiant rhagfarn ddiarwybod mewn lleoliadau gofal cymdeithasol, gwelwyd ei fod yn weddol effeithiol mewn cyd-destunau proffesiynol eraill (Atewologun et al., 2018).
Gobeithiwn, trwy weithredu arferion o’r fath yn fwy parod, y gallwn ddechrau goresgyn y gwahaniaethu ar sail rhywedd yn y maes ymarfer hwn er mwyn sicrhau bod dioddefwyr gwrywaidd camfanteisio’n rhywiol ar blant a allai fod ynghudd yn cael eu hadnabod a’u cynorthwyo, fel bod pob dioddefwr yn gallu cael ei ddiogelu’n ddigonol.
Dadlwythwch yr adroddiad:
Cyfeiriadau
Allport, G. (1954). The nature of prejudice. London: Addison-Wesley Publishing Company.
Atewologun, D., Cornish, T. and Tresh, F. (2018). Unconscious bias training: An assessment of the evidence for effectiveness. Manchester: Equality and Human Rights Commission.
Banaji, M., Hardin, C. and Rothman, A. (1993). Implicit stereotyping in person
judgment. Journal of Personality and Social Psychology, 65(2), pp.272-281.
Berelowitz, S., Clifton, J., Firimin, C., Gulyurtlu, S. and Edwards, G. (2013). If only someone had listened: Office of the Children’s Commissioner’s inquiry into child sexual exploitation in gangs and groups. London: Office of the Children’s Commissioner.
Blumenthal-Barby, J. S. and Krieger, H. (2015). Cognitive biases and heuristics in medical decision making: A critical review using a systematic search strategy. Medical Decision Making, 35(4), pp.539-557.
Carter, M. (2014). Gender socialization and identity theory. Social Sciences, 3(2), pp.242-263.
Child Exploitation and Online Protection Centre. (2013). Threat assessment of child sexual exploitation and abuse. London: Child Exploitation and Online Protection Centre.
Child Exploitation and Online Protection Centre. (2013). Threat assessment of child sexual exploitation and abuse. London: Child Exploitation and Online Protection Centre.
Coy, M. (2016). Joining the dots on sexual exploitation of children and women: A way forward for UK policy responses. Critical Social Policy, 36(4), pp.572-591.
Department for Education. (2016). Characteristics of children in need: 2015 to 2016. London: Department for Education.
Hallett, S., Verbruggen, J., Buckley, K. and Robinson, A. (2019). ‘Keeping safe?’: An analysis of the outcomes of work with sexually exploited young people in Wales. Cardiff: Cardiff University.
Hannah, S. and Carpenter-Song, E. (2013). Patrolling your blind spots: Introspection and public catharsis in a medical school faculty development course to reduce unconscious bias in medicine. Culture, Medicine, and Psychiatry, 37(2), pp.314-339.
Jay, A. (2014). Independent inquiry into child sexual exploitation in Rotherham: 1997– 2013. Rotherham: Rotherham Metropolitan Borough Council.
Kirkman, E. and Melrose, K. (2014). Clinical judgement and decision-making in children’s social work: An analysis of the ‘front door’ system. London: Department for Education.
Mason-Jones, A.J. and Loggie, J. (2019). Child sexual exploitation. An analysis of serious case reviews in England: Poor communication, incorrect assumptions and adolescent neglect. Journal of Public Health, pp.1-7.
McNaughton Nicholls, C., Harvey, S. and Paskell, C. (2014). Gendered perceptions: What professionals say about the sexual exploitation of boys and young men in the UK. Ilford: Barnardo’s.
Munro, E. (2011). The Munro review of child protection: Final report. London: Department for Education.