Mae Cynadleddau ExChange Wales yn dwyn ymchwilwyr blaenllaw ac ymarferwyr a’r sawl sy’n defnyddio’r gwasanaeth dan sylw at ei gilydd i rannu arbenigedd, tystiolaeth ynghylch ymchwil a phrofiadau o ofal.

Drwy ein cynadleddau, mae ExChange yn darparu hyfforddiant o ansawdd uchel am ddim i gefnogi datblygiad parhaus gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol ledled Cymru. Gan ddenu siaradwyr cenedlaethol blaenllaw, gyda’n gilydd rydym yn dysgu ac yn cynghori ar ymchwil, gan effeithio ar bolisi ac ymarfer. Mae ein digwyddiadau a’n hadnoddau’n cyfoethogi sgiliau tra’n blaenoriaethu profiad pobl â phrofiad o ofal.

Edrychwch ar ein cynhadledd ddiweddaraf

Cynhadledd Diogelu Oedolion

Cynhadledd Diogelu Oedolion

Ion 15, 2026

Mae diogelu oedolion yn broses sy’n gwarchod hawl oedolyn i fyw mewn modd diogel, heb gael ei gam-drin a’i esgeuluso. Mae angen i bobl a sefydliadau gydweithio i atal pobl sydd ag anghenion gofal a chymorth rhag cael eu cam-drin…