Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.

Teenage development

18 Gorffennaf 2023
9.30 am – 4.00 pm

Cwrs undydd

Mae’r cwrs hwn yn cydweddu â’r un ar Ddatblygiad Plant ac yn edrych ar blant wrth iddyn nhw ddatblygu yn ystod y glasoed.

Mae’r cwrs hwn yn edrych ar yr arddegau yn nhermau datblygiad corfforol, seicolegol, emosiynol a chymdeithasol. Gall edrych ar y materion sydd dan sylw a ffyrdd o’u deall helpu i ymgysylltu â phobl ifanc a’u cefnogi’n effeithiol.

Mae cwrs hwn ar gyfer ymarferwyr sy’n gweithio gydag arddegwyr ac sydd eisiau deall sut mae eu hymennydd yn gweithio a sut mae hynny’n dod i’r amlwg yn eu hymddygiad.

Nodau:

  • Dealltwriaeth o gyfnodau datblygiad – deallusol a sosio-emosiynol
  • Cyfathrebu – sut mae siarad ag arddegwyr
  • Adeiladu perthnasoedd – meithrin ymddiriedaeth, dysgu cyd-drafod, pennu ffiniau
  • Deall ffactorau straen – pwysau cyfoedion, rhyw a pherthnasoedd, camddefnyddio sylweddau, bwlio, camdriniaeth a thrawma
  • Sut mae hybu annibyniaeth a gwydnwch

Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.