Amcan y gweithdy oedd darparu cyflwyniad byr i beth rydym yn ei wybod am sut mae gweithwyr cymdeithasol yn gwneud dewisiadau ac ymarferion ymarferol er mwyn arbrofi a gweld pa wahaniaeth y gallant ei wneud. Arweiniwyd y gweithdy gan Dr David Wilkins a Dr Catherine Foster.

Cychwynnodd y gweithdy trwy archwilio pwysigrwydd y dewisiadau sy’n cael eu gwneud gan weithwyr cymdeithasol ac amlinellu’r gwahaniaeth rhwng ffyrdd o feddwlyn rhesymol a ffyrdd o feddwl mwy greddfol. Hefyd amlygodd Dr Wilkins pwysigrwydd moesau a gwerthoedd. Dywedodd na all y dewisiadau am deuluoedd byth fod yn rhesymol neu’n dechnegol yn unig o fewn gwaith cymdeithasol.

Yna esboniodd Dr Wilkins sut mae dewisiadau’n aml yn cael eu gwneud ar ryw fath o ragolwg i’r dyfodol, sut bynnag mor ymhlygol neu echblygol. Er bod neb yn gallu gweld i mewn i’r dyfodol, efallai mai’n bosib pennu bod angen mwy o gymorth ar rhai teuluoedd nag eraill, neu bydd rhai pobl yn elwa mwy (neu lai) o ffurfiau penodol o gymorth.

Wedyn siaradodd Dr Wilkins am y dull Fermi, sydd yn helpu amlygu unrhyw dybiausy’n cael eu gwneud wrth i ni ystyried dewisiadau gwahanol. Yn defnyddio’r dull yma, ceisiom ateb y cwestiwn – ‘faint o weithwyr cymdeithasol asesu a chyfeireb sydd ymMirmingham?’. Doedd neb yn gwybod yr ateb cywir ond wrth ystyried cyfres o gwestiynau perthnasol, megis faint o bobl sydd yn byw ym Mirmingham, faint o blant sydd yn cael eu cyfeirio pob blwyddyn a sawl asesiad gall un gweithiwr cymdeithasol cwblhau pob wythnos, medrwn ni greu amcangyfrifiad rhesymol.

Wedi egwyl fer, gwahanom i grwpiau bach i gymhwyso’r technegau i astudiaethau achos. Darllenodd pob aelod o’r grŵp yr astudiaeth achos ac ateb cwestiynau am beth all digwydd nesaf. Yna buom yn trafod ein hatebion fel grŵp ac ystyried os oeddem eisiau newid ein hatebion cyntaf. Ar ôl ambell drafodaeth, daeth pob grŵp ymlaen gyda set o atebion cydseiniol i’r cwestiynau.

Yna rhoddwyd tasgau cyflym i’r mynychwyr iddynt ystyried medrau rhagolwg eu hunain. Er enghraifft, gofynnodd Dr Foster pump cwestiwn ‘gwybodaeth gyffredinol’ am waith cymdeithasol, i helpu ni ddeall os oedden ni’n orhyderus, danhyderus neu wedi paratoi’n dda ar y cyfan.

Roedd canlyniadau’r gweithgaredd yma’n ddiddorol. Yn sawl achos, datblygodd y grwpiau rhagolygon mwy cywir am beth gall digwydd nesaf nag unigolion. Yn ein gweithdy, digwyddodd y gwrthwyneb, gyda rhai unigolion yn dangos mwy o gywirdeb na’r grwpiau.

I WELD Y PWYNT PŴER, PWYSWCH YMA

Diolch i Dr David Wilkins a Dr Catherine Foster am gyflwyno’r gweithdy.