Fe wnaethon ni weithio i ddatblygu fideo gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc.

Mae’r grŵp y buom yn gweithio gyda yn cwrdd yn wythnosol ac yn cynnig cyfle i bobl ifanc a phrofiad o ofal ymweld â’r brifysgol a chymryd rhan mewn gweithgareddau sydd â’r nod o godi dyheadau addysgol a’u hymwybyddiaeth o fywyd prifysgol. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys gweithdai gwyddoniaeth, hanes a throseddeg, teithiau prifysgol, ymweliadau un i un, profiadau preswyl a gweithio gyda phobl ifanc a myfyrwyr prifysgol sydd a profiad o ofal.

Ar draws dwy sesiwn ym mis Ionawr a mis Chwefror 2019 buom yn gweithio gyda’r grŵp i gynnig negeseuon ynghylch addysg i’w rhannu mewn fideo i bobl ifanc eraill. Dechreuon ni trwy daflu syniadau ar yr hyn yr hoffent ei rannu â’u cyfoedion. Pa bethau sy’n eu helpu ym myd addysg? Beth sy’n gwneud gwahaniaeth? Ac yn olaf, beth sy’n eu hysbrydoli? Gan benderfynu ar eu prif negeseuon, yna bu’n rhaid iddynt weithio ar sgriptio a chreu elfennau gweledol ar gyfer y fideo. Fe ddefnyddion ni fyrddau stori i geisio llunio syniadau’r grŵp ac yna mynd yn greadigol gyda lluniadu a hyd yn oed defnyddio ffeltiau.

Defnyddiwyd y delweddau gwreiddiol a wnaed gan y grŵp fel sail i’r animeiddiad fideo isod, gan ddod â’r negeseuon yr oedd y bobl ifanc eisiau eu rhannu yn fyw.

Hoffem ddiolch i’r bobl ifanc ysbrydoledig am rannu eu straeon a’u holl waith caled ar y ffilm. Hoffem hefyd gydnabod yr holl staff cymorth sydd wedi bod yn gweithio gyda’r grŵp, yn enwedig Helen Davies o Reaching Wider ym Mhrifysgol Abertawe. Gobeithio y gwnewch chi fwynhau’r fideo.