Mae heddiw yn nodi dechrau Mis Hanes LGBT 2019. Nod cyffredinol mis Hanes LGBT yw hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth er budd y cyhoedd.

Gwneir hyn wrth:

Cynyddu gwelededd pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol (“LGBT”), eu hanes, eu bywydau a’u profiadau yng nghwricwlwm a diwylliant sefydliadau addysgol a sefydliadau eraill, a’r gymuned ehangach;
 
Codi ymwybyddiaeth a hyrwyddo addysg ar faterion sy’n effeithio ar y gymuned LGBT;
 
Gweithio i wneud sefydliadau addysgol a sefydliadau eraill yn fannau diogel i bob cymuned LGBT;
 
Hyrwyddo lles pobl LGBT, trwy sicrhau bod y system addysg yn cydnabod ac yn eu galluogi i gyflawni eu potensial llawn, fel eu bod yn cyfrannu’n llawn at gymdeithas ac yn byw bywydau cyflawn, a thrwy hynny fod o fudd i’r gymdeithas gyfan.

Isod, rydym wedi cysylltu post blog o www.whocaresscotland.org a ysgrifennwyd gan Kieran. Mae Kieran yn berson ifanc LGBT â phrofiad gofal, sy’n ysgrifennu am ei brofiad.

Gallwch ddarllen stori Kieran’s yma, trwy www.whocaresscotland.org