Mai’n rhaid mai “O na” yw ymateb rhan fwyaf o weithwyr gofal cymdeithasol i’r syniad bod person ifanc mewn gofal yn, neu eisiau, defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol. Dwi’n deall. Fel cyn-weithiwr gofal preswyl, dwi’n deall yn iawn. Ond, ac mae’n rhaid pwysleisio OND, mae cyfryngau cymdeithasol a thechnoleg ddigidol yn dod yn rhan fwy ac yn fwy pwysig o fywyd pob dydd. Dwi’n gwybod eich bod wedi clywed hyn igyd o’r blaen, ond gwrandwch arnaf.

Yn union fel mae gweithwyr cymdeithasol yn gweithio gyda phobl ifanc yw helpu i ddysgu sut mae coginio neu ddarllen, mae’n rhaid i ni weithio gyda phobl ifanc i wneud yn siŵr eu bod yn cael cyfleoedd i ddatblygu eu llythrennedd a hydwythedd digidol. Term yw llythrennedd digidol er mwyn disgrifio gallu rhywun i ddarganfod, gwerthuso, creu a rhannu cynnwys digidol – sy’n bwysig yn enwedig mewn oes lle mae ‘eithafiaeth’ a ‘newyddion ffug’ yn tyfu. Mae hydwythedd ddigidol yn derm ar gyfer disgrifio’r broses o ddysgu o gamgymeriadau ac atal gwneud yr un camgymeriadau eto trwy ddefnydd o dan oruchwyliaeth ac o fewn cyd-destun perthnasoedd cefnogol.

Felly gan feddwl am ddefnydd pobl ifanc mewn gofal o’r cyfryngau cymdeithasol, wrth gwrs bod angen asesiadau diogelu at bob achos yn unigol, er hyn, y brif neges yw bod pobl ifanc mewn gofal angen cefnogaeth a chymorth, yn union fel eu cyfoedion, nid yn unig eu diogelu. Heb gymorth a chefnogaeth, sut allent ddysgu’r sgiliau angenrheidiol i oroesi tu hwnt i ofal cymdeithasol ar ôl bywyd wedi ei reoli a’u gyfyngu’n drwm? Ni allent. Y rheswm pam bod y bobl ifanc yma angen y mwyafswm o gefnogaeth yw am eu bod yn tueddu i fod y mwyaf niweidiol. Oherwydd hyn, mae’r bobl sy’n gweithio gyda’r bobl ifanc yma angen cymorth er mwyn gwybod sut i wneud hynny orau. Yn anffodus, hyd at hyn, ychydig iawn o ymchwil sydd wedi cael ei wneud er mwyn darganfod sut mae pobl ifanc mewn gofal cymdeithasol yndefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol – a sut y gallai eu helpu.

Dyna pam fy mod wedi gweithio gyda fy nghydweithwyr i arwain astudiaeth oedd yn creu darlun manwl o sut mae pobl ifanc mewn gofal yn defnyddio gliniaduron, ffonau symudol ac apiau cyfryngau cymdeithasol (gall astudiaeth lawn gael ei weld yma a chrynodeb yma). Buom yn cynnal dros 100 o arsylwadau mewn pedair cartref preswyl dros gyfnod o saith mis. Roedd yr arsylwadau yn dangos llaw gyntaf sut roedd 10 person ifanc yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol fel rhano’u bywydau dyddiol. Buom hefyd yn cynnal grwpiau ffocwsa chyfweliadau gyda phobl ifanc a’u gofalwyr i drafod beth roeddem wedi ei weld. Ein tri phrif ddarganfyddiad oedd:

1. Roedd pobl ifanc yn cadw cysylltiadau ac/neu yn ail-gysylltu gyda ffrindiau ac mewn rhai achosion cynofalwyr trwy apiau cyfryngau cymdeithasol. Roeddent yn gweld cysylltiadau fel rhywbeth a allai fod yn ddefnyddiol wrth gynhyrchu amryw o gyfleoedd. Roedd cysylltiadau gyda’u cyfoedion tu hwnt i’w cartrefi preswyl neu eu trefniadau gofal personol oedd yn fwyaf pwysig iddynt.

2. Yn gytûn ac ymchwil blaenorol, mae’r thema hon yndangos bod pobl yn eu harddegau yn defnyddiocyfryngau cymdeithasol i aros mewn cysylltiad gydaphobl roeddent yn eu hadnabod. Roedd hyn yn eugalluogi i deimlo’n agosach at eu bywydau cyn dod iofal. Roedd hyn yn bwysig iawn i bobl ifanc ac roeddentyn defnyddio cysylltiadau i deimlo agosatrwydd:

3. Wrth gysylltu gyda rhwydweithiau ffurfiol (megis tudalennau cartrefi gofal cyfryngau cymdeithasol) neu rwydweithiau anffurfiol (megis ffrindiau neu ffrindiau trwy ffrindiau ayyb) trwy apiau cyfryngau cymdeithasol, roedd gan bobl ifanc ffordd o gael mynediad at fuddiannau perthnasau oedd wedi eu sefydlu’n barod a ffordd o greu rhai newydd. I’r bobl ifanc roeddem yn gweithio gyda, daeth apiau cyfryngau cymdeithasol yn hynod bwysig yn ystod y broses trosglwyddo, oedd yn dadsefydlu ac yn tarfu ar gysylltiadau. Roedd defnydd o gyfryngau cymdeithasol yn gwneud i bobl yn eu harddegau deimlo bod ganddynt fwy o gefnogaeth a chysylltiad yn ystod y trosglwyddo. Mae hyn yn awgrymu bod apiau cyfryngau cymdeithasol yn chwarae rhan bwysig i bobl yn eu harddegau yn ystod y broses trosglwyddo.

Mae gweithwyr gofal cymdeithasol angen cefnogi pobl ifanc i ddilyn cyfleoedd sy’n datblygu llythrennedd a hydwythedd digidol. Fel sector, mae’n rhaid i ni gydnabod bod bod yn annibynnol yn ddigidol yn dod ynrhan bwysig o’r trawsnewid i annibyniaeth. Mae mwy o ymchwil ei angen i gefnogi gweithwyr cymdeithasol i wneud y gwaith pwysig yma, ac mae’n rhaid i hyn gynnwys pobl ifanc yn ei graidd.

Allwch chi gysylltu gyda Dr Hammod yma:

s.hammond@uea.ac.uk a @DrSiHammond ar trydar

Darllenwch yr adroddiad gwreiddiol yma