Dros y 30 mlynedd ddiwethaf mae sawl cyfraith, adolygiad polisi, ymholiad a grwpiau gwaith wedi ei sefydlu er mwyn gwella’r gofal a’r gefnogaeth trawsfudol i bobl ifanc (trwy gydol yr adroddiad yma mi fyddaf yn defnyddio’r term ‘pobl ifanc’). Er nifer mawr o sylw i bolisi a chyfreithiau a swm uchel o fuddsoddi, mae llawer o’r materion yma dal heb eu newid. Maent yn aml yn gweld eu hunain ar ben arall gwasanaeth blêr ac anghyson, sy’n gwaethygu o achos y newid cyflym mewn staff beth sy’n arddangos i fod yn brinder o oruchwyliaeth a chydsymud. Mae’r ystadegau a’r data ar faterion sy’n wynebu pobl ifanc yn dorcalonnus. Eto, rydym hefyd yn gwybod llawer o sefydliadau sy’n gwneud ymdrech mawr i weithio gyda phobl ifanc, wedi datblygu practis da ac eisiau gwneud newid positif. Felly, gan gysidro’r nifer o le ac adnoddau sy’n cael eu rhoi tuag at y mater a gan gofio bod llawer o bobl yn poeni amdano, pam ein bod ni dal yn methu llwyddo i gynnig gwasanaeth trefnus o safon uchel i bobl ifanc mewn gofal?

Yn gyntaf, mae’n hawdd rhoi pobl ifanc i gyd mewn un categori, ond mewn gwirionedd, maent yn rŵp amrywiol iawn; y rheswm pam y maent mewn gofal, yr oedran cawson eu rhoi mewn gofal, eu rhyw, eu rhywioldeb, y cysylltiad sydd ganddynt gyda’u teulu, eu statws chwilio am loches, os maent yn anabl a’r math o ofal maent ynddo. Bydd y ffactorau yma i gyd yn effeithio’r math o gefnogaeth rydych ei angen. Tydi’r un gefnogaeth ddim yn gweithio i bawb ac mae’n rhaid i ni fod yn ofalus iawn am ragfarnu. Yn aml, y rheini sydd orau am ein harwain ar beth sydd orau i wneud ar gyfer pobl ifanc yw pobl ifanc eu hunain ond mae “cydweithio” a “chyfraniad” yn bur anaml yn hytrach na bod yn system gyffredinol. Mae pobl ifanc yn aml yn cael eu gweld mewn ffordd ystrydebol er bod y bwriad yn dda, sydd ddim yn gysylltiedig gyda hunaniaeth, canfyddiad a dealltwriaeth o’r sefyllfaoedd y maent ynddynt.

Mae awdurdodau lleol yn gorfod cydbwyso toriadau, delio gyda llwyth o ofynion ac yn cael trafferth cadw staff. Mae gwasanaethau plant allanol llawer iawn mwy cyffredin ac maeambell i adroddiad yn cwestiynu a ydi’r cytundebau yma’n poeni fwy am les y plant neu am wneud elw. Mae mwy a mwy o storïau yn y wasg am bobl ifanc yn cael eu rhoi mewn llety anaddas, mewn ardaloedd anaddas gydag ychydig neu dim byd wrth gefn. Tydi hi ddim yn anghyffredin i bobl ifanc fod wedi derbyn hyd at bump neu bedwar gweithiwr allweddol dros gyfnod o ddwy flynedd.

Felly yn amlwg, mae’r ffordd rydym yn gweithio, yn comisiynu ac yn gwasanaethu ein plant yn annigonol. Yn bersonol, mae gen i brofiad o weithio dros nifer o awdurdodau gyda staff sy’n ceisio gwneud eu gorau ond yn teimlo fel eu bod yn suddo a ddim ar ben eu briff. Tydi hi ddim yn anghyffredin i ddarganfod bod yr adroddiadau a’r rheolau yn cymryd 80% o amser gweithwyr sy’n gweithio gyda phlant. Does gan weithwyr ddim yr amser i ffurfio perthynas gyda phobl ifanc, yna maent yn colli golwg o’u gwaith ac yna yn gadael. Felly mae pobl ifanc yn datblygu pryder a diffyg fydd yn y system ac wedyn yn gwrthod cydweithio gyda’r gwasanaethau cymdeithasol. Mae hyn hefyd yn golygu fod pobl ifanc yn cael trafferth ymddiried pobl oherwydd eu bod wedi arfer cael eu siomi. Yn rhy aml, yr achos yw bod pobl ifanc ddim yn ganolog mewn ffordd ystyrlon i’r datblygiad, mynegiant a’r gwerthusiad o’r gwasanaethau sydd wedi cael eu sefydlu i’w cefnogi. Felly, efallai bod hi ddim syndod sut bod y gwasanaethau yn aml yn methu a bod pobl ifanc ddim yn ffyddiog yn y bobol sydd yn dweud eu bod eisiau eu gwella.

Yn y 90au cynnar, mynychais gyfarfod rhwng pobl ifanc ac is-weinidog. Yng nghanol y cyfarfod, dywedodd un o’r bobl ifanc eu bod eisiau cael eu caru, ddim eu gofalu amdanynt. Mae’r mater yma yn un cyson ac yn achosi llawer o drafodaethau, dadleuon ac ymryson. Byddai rhan fwyaf o bobl yn dadlau ein bod i gyd angen cariad. Ond i bobl ifanc, yr enwedig yr heini mewn gofal, y gwirionedd yw eu bod wedi cael eu magu gan bwyllgorau a chofnodion, sy’n cael eu dosbarthu gan staff ymroddedig, caredig sydd a’r bwriad gorau, neu ar waethaf, gan staff di-ddiddordeb sy’n newid o hyd.

Efallai mai’r diffyg cariad yma yw’r rheswm pam fod rhan fwyaf o bobl ifanc yn ei gweld hi’n anodd ffurfio perthnasau ac yn aml yn disgrifio’u hunain yn teimlo’n wahanol. Mae llythyr gan weithiwr cymdeithasol yn rhoi caniatâd i chi brynu rhywbeth yn wahanol iawn i fynd i’r siop i’w nôl gyda phobl sy’n eich caru.

Yn gysylltiedig â hyn, beth rwyf wastad wedi ei weld yn rhyfedd yw’r ffocws ar “annibyniaeth”. Mae’r syniad bod unrhyw un yn troi’n annibynnol yn 16, 18 neu 21 yn gwrthwynebu’r dystiolaeth rydym yn ei ddeall wrth dyfu i fyny ein hunain neu wrth fagu ein plant. Mae’n rhaid mae’r sgil bywyd allweddol i bobl o bob oedran yw’r sgil o ddysgu sut i fod yn annibynnol a ffurfio perthnasau, gweithio gyda phobl a gallu chwilio, cynnig a rhoi help?

Mae’r mwyafrif helaeth o blant mewn gofal yn cael eu maethu ac mae sawl ymdrech i geisio cynyddu gofal carennydd. Er hyn, yn aml tydi gofalwyr maeth ddim yn cael eu cynnwys mewn ffordd ystyrlon wrth drafod materion gofal. Hefyd, maepryderon am asiantau sy’n gweld maethu fel busnes yn hytrach na chyfle i gynnig teulu caredig a chariadus i blentyn.Fel sawl sefydliad arall mae gwaith cymdeithasol yn adlewyrchu’r oes rydym yn byw ynddi. Mae’r ffocws ar unigoliaeth, sy’n rhedeg trwy ein gwleidyddiaeth ac maecynnydd mewn ymagweddau therapiwtig unigol yn golygu bod pobl ifanc yn credu y dylent fod yn annibynnol o ryw oed penodol. Nhw, a nhw yn unig fydd yn gyfrifol am y llwyddiannau a’r methiannau maent yn eu profiadu mewn bywyd. Mae cynnydd mewn darpariaeth ieuenctid sy’n cael ei ddefnyddio er mwyn helpu unigolion ddod o hyd i waith, addysg neu hyfforddiant o amser penodol. Ychydig iawn o amser sydd (os oes amser o gwbl) i rannu profiadau gyda phobl eraill mewn sefyllfaoedd tebyg, i gwestiynu sut a pham bod pethau’n cael eu gorfodi neu herio beth rydych chi’n ei weld yn annheg am y system. Mewn sawl ffordd, mae pobl ifanc yn fel unedau ar linell cynhyrchu sy’n cael eu prosesu gan adrannau gwasanaethau cymdeithasol a’r sefydliadau maent yn allbynnu adnoddau iddynt, sydd heb gefnogaeth ddigonol.

Er hyn i gyd mae llawer o bobl ifanc yn llwyddo i gael bywydau, gyrfaoedd a chyfleoedd da, ond yn anffodus mae llawer iawn gormod ohonynt yn gwynebu sialensiau a phroblemau ac yn cael eu gadael i lawr. Rydym hefyd yn gwybod bod yna lawer o brosiectau da sy’n cynnig cefnogaeth ac yn hybu pobl ifanc i weithio gyda’u gilydd a gwella materion o bwys. Mae’r prosiectau yma yn dda wrth eu bod fel arfer yn pwysleisio ar brofiadau llaw gyntaf pobl ifanc sy’n arwain ac yn datblygu’r gwaith. Mae’r prosiectau yma’n hyblyg ac yn gallu ymateb i anghenion y bobl ifanc ac maegan y staff swyddi sy’n rhoi amser iddynt ffurfio perthynas gyda’r bobl ifanc ac felly mae’r bobl ifanc yn rhannu problemau penodol ac mae’r gweithiwr yn gallu eu cefnogi mewn ffordd brydlon i’r bobl ifanc. Mae’r prosiectau yma hefyd wedi ei rhwydweithio’n dda, yn dda am gydweithio ac am weithio’n agos, hyd yn oed pan maent yn anghytuno gyda’r awdurdod lleol. Yn ogystal â phrosiectau eraill fel yr un rwy’n gweithio gyda sy’n dal i geisio creu cysylltiadau gyda’r sector breifat fel ffordd o hybu pobl ifanc i ffurfio perthynas gydag amrywiad helaeth o bobl o fewn eu cymunedau a all gynnig help a chefnogaeth iddynt am bynciau mor amrywiol a gwneud cacen, chwaraeon neu ddysgu mwy am fyd gwaith.

Gan gysidro’r wybodaeth uchod, sut allwn ni wneud yn siŵr bod y gofal, pryder a’r adnoddau sydd ar gael i bobl ifanc yn cael eu troi i weithredoedd effeithiol a phrosiectau sy’n cefnogi pobl ifanc. Fyswn i’n awgrymu’r isod:

Llais a chyd-gynhyrchu: “Dim byd amdanom ni hebom ni” dylai fod y mantra sy’n sicrhau bod pobl ifanc yn “creu” a ddim yn unig “defnyddio” gwasanaethau. Does byth unrhyw fwled hudolus ond mae syniadau a phrosiectau sy’n cynnwys pobl ifanc yn eu datblygiad, eu gweithrediad a’u gwerthusiad yn llawer iawn fwy tebygol o lwyddo, yn ogystal â chynnig amrywiaeth o gyfleoedd er mwyn helpu i bobl ifanc ddatblygu eu sgiliau meddal a chaled trwy gymryd rhan yng nghyd-gynhyrchu’r prosiect.

Tydi pob person ifanc ddim yr un peth. Mae pobl ifanc yn grŵp eang gyda llawer o anghenion a llawer o ddoniau. Mae’n rhaid i ni osgoi trin pob un yr union yr un fath a derbyn na’r ffordd i ddatblygu gwasanaethau effeithiol yw gwneud yn siŵr eu bod yn hyblyg ac yn addasol fel eu bod yn ymateb i broblemau’r bobl ifanc fel maent yn eu hegluro.

Contractio. Mae angen i ni edrych o ddifri ar gontractio allan o wasanaethau plant, cynnwys pobl ifanc wrth gomisiynu ac archwilio’r gwasanaethau. Allwn ni ddim caniatáu i sefydliadau “ffuantus” sy’n ceisio gwneud elw yn unig sefydlu darpariaeth annigonol, gyda staff digymhwyster a ddigymorth mewn gosodiadau anaddas. Dylai lles y plentyn fod wrth galon pob penderfyniad sy’n cael ei wneud am ddarpariaeth gwasanaeth, nid sut i arbed arian. Gall yr arian sy’n cael ei wario “nawr” arbed miliynau yn y pen draw os rydym yn gallu helpu pobl ifanc i fod yn hyderus ac i allu mynd trwy fywyd a delio gyda phroblemau mewn ffordd bwrpasol.

Staff. Mae angen i ni edrych ar yr hyfforddiant a’r cefndir sydd angen ar weithwyr er mwyn cefnogi pobl ifanc a sut allwn ni weithio er mwyn gwneud yn siŵr bod staff yn aros, fel bod pobl ifanc yn derbyn gwasanaeth cyson a dibynadwy gan staff maent yn eu hadnabod ac yn ymddiried ynddynt.Hefyd, mae angen i ni edrych ar gyfraniad mae pobl hyn gyda phrofiad o ofal yn ei wneud ac ymchwilio ffyrdd o ddenu pobl gyda phrofiad o ofal i mewn i waith cymdeithasol/cymunedol.

Gofal maeth. Mae angen i adnoddau a safle fod ar gael fel bod gofalwyr maeth yn cael rhannu eu gwybodaeth eang o weithio gyda phobl ifanc. Dylai ymdrechion gael eu gwneud er mwyn hybu a chefnogi gofal mwy cariadus, ddim fel opsiwn rhad ond fel dull wedi ei ariannu’n ddigonol i ddarparu gofal. Dylai bod ymdrech cydunol i sicrhau bod asiantau sy’n cefnogi ac yn cynnig gofalwyr maeth yn canolbwyntio ar wneud beth sydd orau i’r plentyn.

Y sector breifat. Mae gan y sector breifat nifer enfawr o adnoddau ac yn cyflogi pobl sy’n byw yn y gymuned leol. Mae llawer o waith i wneud er mwyn hybu cwmnïau lleol i gefnogi pobl ifanc gyda phrofiad o ofal ac mae’r cytundeb ymadael gofal yn le da i ddechrau.

Cariad. Rydym angen symud i ffwrdd o system sy’n ceisio magu pobl ifanc mewn ffordd fiwrocrataidd a dechrau meddwl yn greadigol am sut y gallwn ni wneud i bobl ifanc deimlo bod rhywun yn eu caru, gan dynnu sylw dyledus at ddiogelwch.

Gweithred gymdeithasol. Rydym angen symud i ffwrdd o’r obsesiwn hurt sydd gennym o annibyniaeth a tuag at fodel weledol lle mae pobl ifanc yn cael eu cefnogi a’u hybu i fod yn gyd-ddibynnol. Mae angen i ni eu hybu a’u cefnogi i adnabod “beth” yw’r problemau iddyn nhw, “pam” eu bod yn digwydd a’u galluogi i weithio gyda’i gilydd i greu newid. O ganlyniad, mae’r broses yma yn eu galluogi i ddatblygu’r sgiliau meddal a caled fydd yn eu helpu i ffurfio perthnasau, gweithio gydag eraill, chwilio a gofyn am help.

Digon yw digon. Mae angen i ni fod yn flin am sut mae’r rhan fwyaf o blant niweidiol yn cael eu trin gan eu rhieni corfforedig. Fe allwn ac mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr fod pobl yn deall gradd y problemau yma yn llawn a bod y bobl sy’n gyfrifol yn atebol am fethiant y llywodraeth i gynnal eu cyfrifoldebau statudol. Mi hoffwn i weld ein Prif Weinidog yn arwain tuag sicrhau bod “ein plant” yn cael gofal a sicrhau bod ein llywodraeth ddim yn trin y materion yma yn amhwysig ac i arwain ymgyrch sy’n annog y stad, sector breifat a’r trydydd sector gyd-weithio er mwyn lles “ein plant”.

Rydym yn byw mewn cymdeithas sy’n anfon pobl i’r lleuad, rydym yn gallu buddsoddi biliynau i ddatblygiad technoleg, ac mae merch sy’n dda am chwarae pêl droed yn gallu ennill hyd at hanner miliwn yr wythnos. Yn amlwg, mae gennym y gallu, yr wybodaeth a’r adnoddau i sicrhau bod pob plentyn yn cael yr un gefnogaeth a chyfleoedd y buasem yn cynnig ein plant ein hunain – dim ond i ni ddewis gweithredu. Tydi o ddim yn ormod i ofyn nac yn costio gormod ond i’r plant yma, mi fydd yn gwneud byd o wahaniaeth. Gyda’n gilydd fe allwn wireddu hyn.