Nod yr ŵyl yw annog pobl i siarad am ofal, beth sydd ar gael yn lleol, a sut y gall pobl helpu i lunio gofal yn ein cymuned… Read More
Cyflwr Hawliau Plant yng Nghymru
Mae’r ail adroddiad a baratowyd gan Grŵp Monitro UNCRC Cymru wedi’i lansio. Dyma’r ail adroddiad a baratowyd gan Grŵp Monitro CCUHP Cymru, sef cynghrair cymdeithas sifil a hwylusir gan Plant yng Nghymru, i hysbysu Sesiwn 94 ac archwiliad Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon… Read More
Ymchwil gydag ysgolion a dysgwyr ar weithredu’r Cwricwlwm i Gymru yn gynnar
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau cam cyntaf yr ymchwil ansoddol gyda 64 o uwch-arweinwyr mewn ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion, a oedd yn archwilio profiadau cynnar ysgolion o gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru… Read More
Cynhadledd Pobl a Chartrefi 2023
Am fwy nag ugain mlynedd mae cynhadledd Pobl a Chartrefi Shelter Cymru wedi bod yn ddigwyddiad tai cenedlaethol allweddol yng Nghymru. Eleni maent yn mynd yn fwy ac yn well nag erioed o’r blaen, gan gynnal cynhadledd fwyaf Cymru ar ddigartrefedd. Hwn fydd eu digwyddiad hybrid cyntaf erioed, gan eu galluogi i gyrraedd mwy o bobl a rhannu mwy o ddysgu o bob cwr o Gymru a thu hwnt… Read More
Cyfle i rannu eich profiadau o adael gwasanaethau gofal yng Nghymru
Er gwaethaf ymdrechion parhaus i bontio’r bwlch rhwng pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal a’u cyfoedion, mae llawer nad ydym yn ei wybod o hyd am y ffactorau sy’n cyfrannu at yr anghydraddoldebau hyn. Nod y gwaith ymchwil hwn yw datblygu gwell dealltwriaeth o sut y gellir datblygu polisïau a strwythurau cymorth yn effeithiol i fynd i’r afael ag anghenion penodol pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal… Read More
Dulliau Celf ar gyfer Hunan-Gynrychioli Myfyrwyr Israddedig
Mae’r llyfr yn cyflwyno ymchwil a gasglwyd ymhlith addysgwyr celfyddydau, a darlithwyr yn y gwyddorau cymdeithasol a’r dyniaethau i gynnig dulliau ymarferol o integreiddio dulliau’r celfyddydau yng nghynnwys rhaglenni a addysgir; a hefyd archwilio sut mae mannau cyfarfod ar gyfer hunan-gynrychiolaeth yn cael eu creu mewn ymarfer celfyddydau allgyrsiol… Read More
Golwg ehangach ar addysg i Blant mewn Gofal
Mae’n hawdd syrthio i’r fagl o gymryd bod addysg ond yn digwydd yn yr ysgol. Fodd bynnag, mae ymchwil Dr Karen Kenny yn amlygu faint o ddysgu sy’n digwydd o amgylch plant, drwy’r amser. Mae’r gwaith hwn yn awgrymu y byddai’n ddefnyddiol mabwysiadu safbwynt ehangach wrth ystyried addysg pobl ifanc sydd yng ngofal y wladwriaeth, gan eu helpu i nodi eu llwyddiannau… Read More
Pecyn ‘Ffocws ar y Dyfodol’ i Fusnesau
Yn ystod cyfarfod diweddar Hyrwyddwyr y Gwanwyn Leicestershire Cares, lansiwyd pecyn gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth o namau ar y golwg yn y gweithle… Read More
ADHD: Dealltwriaeth i Ymarferwyr
Nod yr hyfforddiant undydd yma yw galluogi staff rheng flaen sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc i sicrhau bod ganddyn nhw ddealltwriaeth gadarn o ADHD, gwerthfawrogiad o’r gwahanol ffyrdd mae’n gallu amlygu ei hun, sy’n effeithio ar asesu a diagnosio plant a phobl ifanc, a hefyd ddealltwriaeth o’r risgiau cyffredinol sy’n gysylltiedig ag ADHD, a’r angen am ymyriadau meddygol a therapiwtig integredig i wella canlyniadau bywyd… Read More
Cefnogi iechyd meddwl a lles pobl ifanc
Nod y cwrs yw archwilio’r amrywiol anawsterau mae pobl ifanc yn eu profi gyda iechyd meddwl a sut mae meithrin gwydnwch a gwella llesiant. Bydd y cwrs yn edrych ar y gwahanol fathau o broblemau iechyd meddwl, yr ymddygiad sy’n gallu cyd-ddigwydd â nhw, a sut mae cefnogi’r person ifanc. Cyflwynir amrywiol ffyrdd o feithrin gwydnwch, a dangos sut mae cynnal llesiant… Read More