ERTHYGL
Awduron: Dawn Mannay, Rhiannon Evans, Eleanor Staples, Sophie Hallet, Louise Roberts, Alyson Rees, Darren Andrews
Blwyddyn: 2017
Crynodeb:
Mae profiadau addysgol a chyrhaeddiadau plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal (LACYP) yn parhau i fod yn destun pryder rhyngwladol eang. Yn y DU, mae plant a phobl ifanc mewn gofal yn cyflawni canlyniadau addysgol gwaeth o gymharu ag unigolion sydd ddim mewn gofal. Er gwaethaf yr holl ymchwil sy’n dogfennu’r rhesymau dros anfantais addysgol ymhlith y boblogaeth yma, mae ystyriaeth empirig gyfyngedig o hyd o brofiadau byw’r system addysgol, fel y mae LACYP eu hunain yn ei ystyried. Mae’r papur hwn yn tynnu ar ymchwil ansoddol gyda 67 o blant a phobl ifanc â phrofiad o ofal yng Nghymru. Roedd y sampl rhwng 6 a 27 oed, ac roedd yn cynnwys 27 o ferched a 40 o ddynion. Roedd y cyfranogwyr wedi profi ystod o leoliadau gofal. Mae’r canfyddiadau’n canolbwyntio ar sut mae polisïau ac arferion addysgol yn dieithrio LACYP oddi wrth drafodaethau amlycaf o gyflawniad addysgol trwy aseinio’r safle pwnc ‘â chymorth’, lle mae plant a phobl ifanc yn cael eu caniatáu a hyd yn oed yn cael eu hannog i beidio â llwyddo yn academaidd oherwydd eu hamgylchiadau cartref cymhleth ac aflonydd. Fodd bynnag, mae disgwyliadau llai o’r fath yn cael eu gwrthod gan LACYP, sydd am gael eu gwthio a’u herio wrth wireddu eu potensial. Dadl y papur yw bod angen ymgorffori dealltwriaeth fwy gwahaniaethol o ddyheadau a galluoedd LACYP mewn arferion bob dydd, er mwyn sicrhau bod systemau cymorth addysgol effeithiol yn cael eu datblygu.