Dyfodol Gofal Preswyl
Tachwedd 2018
Ar yr 19eg o Dachwedd, bu ymarferwyr yn ymgynnull ifynychu cynhadledd ‘Magu ein plant: Dyfodol Gofal Preswyl’ yn Neuadd y Ddinas Caerdydd, er mwyn gwrando a thrafodymchwil ar faterion sy’n berthnasol i ddyfodol gofal preswyl. Dr Alyson Rees
Ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd oedd y croesawumynychwyr y digwyddiad ac yn agor y trafodaethau. Roedd y sesiynau boreol yn canolbwyntio ar ddau recordiad ‘Lleisiau o Ofal’ (Voices from care) a chyflwyniadau gan Professor Sally Holland (Comisiynydd Plant Cymru) a Professor David Berridge o Brifysgol Bryste.

Agorodd gyflwyniad Professor Holland “Polisi datblygiadau Yng Nghymru ers cyhoeddiad adroddiad ‘Right Care’ (Policy developments in Wales since the publication of the Right Care Report) drwy gyfeirio at gyfrifon llaw gyntaf a theimladwy’r recordiadau o ‘Lleisiau o Ofal; Byw o fewn a gadael gofal’ (Voices from Care: Living and Leaving). Siaradodd Sally Holland am bwysigrwydd cynnwys plant a phobl ifanc wrth wneud penderfyniadau am eu bywydau gangyfeirio at yr adroddiad ‘Uchelgeisiau cudd’ (Hidden Ambitions) wrth sôn bod angen i ni gynnig y gefnogaethbriodol i bobl sy’n gadael gofal cymdeithasol i allu cyrraeddeu huchelgeisiau. Yn ogystal, nododd bod trafodaethau yncael eu cynnal ar hyn o bryd i geisio eithrio pobl ifanc syddnewydd adael gofal cymdeithasol o orfod talu treth gyngornes eu bod yn 25. Gorffennodd wrth bwysleisio bod angendarpariaeth gadarn i’r bobl ifanc sydd ei angen, yn o gystal â phobl a gofynion therapiwtig, gofynion gofal cymdeithasol ac er mwyn cadw pobl niweidiol yn ddiogel.
“Dylai pobl ifanc allu aros yng ngofal preswyl nes eu bod yn barod i adael a ddim cael eu gwthio i adael yn rhy fuan. Dylai cyn-breswylwyr dderbyn cefnogaeth barhaol.”
Nesaf, cafodd ‘Dyfodol gofal preswyl’ ei gyflwyno ganProfessor David Berridge o Brifysgol Bryste. Mae David ynweithiwr gofal preswyl gyda gwerth 30 mlynedd o ymchwil iwasanaethau plant ac wedi cynnal sawl astudiaeth ar ofalpreswyl. Yn ystod ei gyflwyniad, soniodd am y stigma sy’ngysylltiedig â gofal preswyl ac am y gostwng cyson o’rdefnydd ohono fyd eang- Yn Lloegr, mae’r defnydd ohonowedi lleihau o 40 mil I 8 mil mewn 40 mlynedd. Nesaf, cafodd ‘Dyfodol gofal preswyl’ ei gyflwyno ganProfessor David Berridge o Brifysgol Bryste. Mae David ynweithiwr gofal preswyl gyda gwerth 30 mlynedd o ymchwil iwasanaethau plant ac wedi cynnal sawl astudiaeth ar ofalpreswyl. Yn ystod ei gyflwyniad, soniodd am y stigma sy’ngysylltiedig â gofal preswyl ac am y gostwng cyson o’rdefnydd ohono fyd eang- Yn Lloegr, mae’r defnydd ohonowedi lleihau o 40 mil I 8 mil mewn 40 mlynedd.
“Roedd yn ddechreuad ar sawl gyfeillgarwch newydd”
Mi barhaodd y pnawn gydag ail recordiad o “Lleisiau gofal: Cyfleoedd” a phanel yn trafod“ Ein dyfodol, ein lleisiau: gofal– gweledigaeth brofiadol i ofal preswyl” gyda Sean O’Neill (Plant yng Nghymru) Chris Dunn (Lleisiau o Ofal) a dauberson ifanc gyda phrofiad o ofal preswyl. Ymhlith y cwestiynau a ofynnwyd oedd ‘sut allai’r trosglwyddiad o ofalpreswyl i fywyd annibynnol gael ei wella?’ a ‘sut hoffech chi weld gofal preswyl yn newid yn y dyfodol?’ Roedd cael deallo safbwynt pobl gyda phrofiad llaw gyntaf o ofal preswyl ynrhan amhrisiadwy o’r diwrnod, gyda llawer o’r mynychwyryn cymryd rhan yn y sesiwn a ddilynodd.
Ar ôl hynny bu cyflwyniad “Creu cartref’ mewn gofalpreswyl” gan Professor Claire Cameron o UCL ac yn cau’rdiwrnod oedd cyflwyniad Lucy Treby (Gofal cymdeithasolCymru): Gofal cymdeithasol Cymru yn cefnogi’r gweithlu iarwain at ganlyniadau da i blant. ‘Social Care Wales Supporting the workforce to deliver good outcomes for children’.
Adnoddau
Sally Holland: Policy developments in Wales since the publication of the Right Care Report
Mike Lewis (Hawliau): Using systems thinking to improve children’s residential care
Brian Paget’s (Consultant): Good practice guidance in out of area and cross border placements
Claire Cameron’s (University College London): ‘Doing home’ in residential care
Cerddi gan rhai o blant yng ngofal preswyl yn bresennol:
‘Ein profiadau o ofal preswyl’: Fideos Byw a Gadael