Yn 2018, cychwynnodd grŵp o wyddonwyr cynaliadwyedd sy’n gysylltiedig â’r Sefydliad Ymchwil Lleoedd Cynaliadwy ym Mhrifysgol Caerdydd ar genhadaeth i drawsnewid eu hymchwil yn straeon plant. Eglurodd y cyd-awdur Lorena Axinte (a dderbyniodd ei PhD ym Mhrifysgol Caerdydd), “roedden ni am ysgrifennu llyfr am obaith ac arweinyddiaeth a fyddai’n gwneud i ddarllenwyr ifanc wenu, a hefyd yn eu hysbrydoli i gefnogi newid cadarnhaol, ailgysylltu â’u hamgylchedd, a chreu cwlwm gyda’u cymunedau”. Cefnogwyd y prosiect gan brosiect SUSPLACE (“Llunio Lle Cynaliadwy”) yr UE, a ariannwyd gan Marie Curie.
Detholiad o chwe stori ffuglen yw Un Tro yn y Dyfodol, wedi’u hysgrifennu ar gyfer plant 7-12 oed. Darlunnir y straeon mewn modd llawn dychymyg gan yr artist Rita Reis o Bortiwgal. Gan ddefnyddio iaith syml ond bywiog, maent yn adrodd anturiaethau pobl ifanc pob dydd sy’n dysgu eu ffordd o gwmpas y byd, yn profi newid, pryder, colled, siom, a methiant, ac yn y pen draw, llwyddiant a grymuso. Trwy’r amser, mae’r cymeriadau’n creu cwlwm â bydoedd dynol a bydoedd nad ydynt yn ddynol, ac maent yn cynyddu eu cymhwysedd a’u hyder eu hunain. Yn bwysicaf oll, mae’r arwyr a’r arwresau ifanc hyn yn dysgu gofalu am y byd o’u cwmpas a gweithio gydag eraill i gyfrannu at y pethau sy’n bwysig iddynt.
Mae pob stori wedi’i hysbrydoli gan ymchwil ar bwnc penodol, gan gynnwys economïau bwyd cylchol, traddodiadau tecstilau mewn ardaloedd gwledig, arferion tir comin mewn coedwigoedd, cadwraeth ac adfywio bioamrywiaeth, rôl ieuenctid mewn llywodraethu trefol, a phwysigrwydd gwerthoedd a dychymyg ar gyfer arweinyddiaeth gynaliadwyedd.
Cyhoeddwyd y llyfr yn gynnar yn 2022 gan BABIDI-BÚ Libros, tŷ cyhoeddi annibynnol moesegol yn Sbaen, ac mae llyfr gwaith darluniadol am ddim i gyd-fynd ag ef, yn llawn cwestiynau a gweithgareddau a luniwyd er mwyn i addysgwyr a darllenwyr blymio’n ddyfnach.
Hyd yma, mae Un Tro yn y Dyfodol wedi derbyn adolygiadau canmoliaethus dros ben gan bobl sy’n gwybod am her dal sylw plant…
“Casgliad hudolus a hynod deimladwy o straeon sydd â phŵer i gludo plant i amgylcheddau newydd, gan eu hannog i feddwl yn wahanol ac yn llawn dychymyg am yr effaith y gallwn ei chael ar y byd o’n cwmpas.” – Jacqui Lofthouse, Nofelydd a Sylfaenydd Yr Hyfforddwr Ysgrifennu.
“Fel athro, mae’n anodd dod o hyd i ddeunyddiau ysgogol i ddangos i blant pa mor bwysig yw ein hamgylchedd. Mae hyd yn oed yn fwy anodd gwneud iddyn nhw ddeall sut gallan nhw ofalu amdano. Mae’r straeon hyn, sy’n seiliedig ar ymchwil fanwl a gwaith cryf, yn siarad yn iaith plant.” – Berta Nieto Fernández, athro gradd ganol yn Ysgol El Trigal, Madrid.
“Ceir antur, gobaith, a iachâd yn yr hanesion hyn. Archwilio’n ddwfn, ceisio, a dod o hyd i gysylltiadau ag eraill, yn ddiogel i fod yn chi eich hun. Derbyniwch y gwahoddiad hwn i freuddwydio, i greu, i gofleidio pŵer ac i drigo yn y byd cysylltiedig.” – MJ Grande, Llyfrgellydd Gwasanaethau Ieuenctid, Llyfrgelloedd Cyhoeddus Juneau, Alaska.
Dilynwch gyfryngau cymdeithasol y llyfr ar Twitter a Facebook @UponFuture
Mae croeso i chi gysylltu â’r awduron trwy e-bost yn: storiesforfuture@gmail.com
Os dymunwch brynu copi, gallwch ei brynu yn BABIDI-BÚ Libros, ac mae hefyd ar gael trwy FNAC ac Amazon.
Yr Awduron:
Mae Lorena Axinte (@lorena_ax) yn ymchwilydd ac yn ymgynghorydd ym maes symudedd yn y dyfodol, gyda diddordeb arbennig mewn llywodraethu a chyfranogiad, a’r rôl y gall pobl ifanc ei chwarae wrth siapio eu hamgylcheddau.
Mae Alessandro Vasta (ar Linkedin) yn astudio bywoliaethau traddodiadol ac yn gweithio fel ymgynghorydd yn Sefydliad Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig (FAO). Cyd-sylfaenydd “La permafattoria” yn rhanbarth Umbria yn yr Eidal.
Mae Angela Moriggi (@AngelaMoriggi) yn ymchwilydd a hwylusydd sy’n gweithio ar arloesedd cymdeithasol o bersbectif seiliedig ar ofal, gan ddefnyddio dulliau gweithredu trawsddisgyblaethol a chyfranogol, sy’n canolbwyntio ar weithredu. Mae hi’n gweithio o Brifysgol Padova, ac yn gyd-sylfaenydd ar reimaginary.com.
Mae Anastasia Papangelou (ar Linkedin) yn beiriannydd amgylcheddol gyda gweledigaeth i ddileu’r cysyniad o wastraff o’n cymdeithas. Mae hi’n ceisio cyflawni hyn trwy ei hymchwil ar wastraff organig, ond hefyd trwy ei hymarfer fel storïwr a pherfformiwr byrfyfyr.
Mae Marta Nieto Romero (@martanietor) yn ymchwilydd ar dir comin, llywodraethu systemau cymdeithasol-ecolegol, a natur drawsddisgyblaethol, a hynny yn ISEG, Prifysgol Lisbon.
Mae Kelli Rose Pearson (@reimaginaries) yn entrepreneur, ymgynghorydd, ac ymchwilydd sydd â diddordeb mewn dychymyg trawsnewidiol, adrodd straeon, ac arferion creadigol / celfyddydol sy’n cefnogi arweinyddiaeth gynaliadwyedd. Cyd-sylfaenydd reimaginary.com.