Cyflwynydd: Dr Emily Lowthian, Darlithydd mewn Addysg, Prifysgol Abertawe Crynodeb Mae plant sy’n cael cyfnodau cymharol fyr dan ofal – a/neu sy’n profi gofal yn ystod plentyndod cynnar neu hwyr – yn aml yn wynebu’r diffyg mwyaf sylweddol yn eu cyrhaeddiad addysgol o’u cymharu â’r rhai sydd â phrofiadau hirach a mwy sefydlog dan ofal.… Read More
Gweminar: Llais pobl ifanc ag anableddau dysgu ac awtistiaeth mewn cyflogaeth â chymorth
Cyflwynwyr: Andrea Meek a Dr. Elisa Vigna, Y Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl ym Mhrifysgol Caerdydd a Gerraint Jones-Griffiths, Anabledd Dysgu Cymru/Cydymaith Anrhydeddus ym Mhrifysgol Caerdydd. Crynodeb Bydd y cyflwyniad hwn yn trin a thrafod pwysigrwydd gweithio’n rhan o bartneriaeth mewn Cyflogaeth â Chymorth, yn seiliedig ar Engage to Change, prosiect cenedlaethol 7 mlynedd o… Read More
Gweminar: Gweithio gyda rhanddeiliaid i wella ymatebion i gamfanteisio troseddol ar blant.
Cyflwynydd: Dr Nina Maxwell, CASCADE Bydd y sesiwn hon yn rhoi trosolwg o’n gwaith ar gamfanteisio troseddol ar blant yng Nghymru. Bydd yn dechrau gyda chyflwyniad byr am sut y daeth CASCADE yn rhan o’r ymchwil hwn a phwysigrwydd gweithio gyda rhanddeiliaid o’r cam dylunio ymchwil i greu deilliannau ymchwil ar y cyd. Bydd y… Read More
Gweminar: Galluogi siarad ac ail-fframio negeseuon: Gweithio’n greadigol ac ar y cyd er mwyn creu effaith
Cyflwynydd: Yr Athro Dawn Mannay, Prifysgol Caerdydd Crynodeb Mae’r cyflwyniad hwn yn trin a thrafod sut y gellir defnyddio dulliau creadigol a chydweithredol fel technegau i gynhyrchu data ac i ledaenu gwybodaeth a chreu effaith. Ffocws y cyflwyniad yw astudiaeth ansoddol o brofiadau a dyheadau addysgol plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal… Read More
Seminar Y Ganolfan Ymchwil Gofal Cymdeithasol i Oedolion (CARE) ‘Hyrwyddo lles gofalwyr: ymchwil gyfredol a chyfeiriadau’r dyfodol’.
Pryd: 21 Mai 2024, 11-1pm Mae astudiaethau ymchwil am les gofalwyr dros y degawd diwethaf wedi amlygu effaith rhoi gofal ar iechyd ariannol, corfforol a meddyliol gofalwyr anffurfiol. Yn y seminar hon a gynhelir gan y Ganolfan Ymchwil Gofal Cymdeithasol i Oedolion (CARE) ym Mhrifysgol Caerdydd, rydym yn canolbwyntio ar y goblygiadau i les cymdeithasol… Read More
Gwella ymarfer gyda thadau mewn gwasanaethau plant
Cyflwynydd: Jonathan Scourfield, Athro Gwaith Cymdeithasol, CASCADE, Prifysgol Caerdydd Mae problem barhaus a hir-sefydlog gydag ymarfer mewn gwasanaethau plant sy’n canolbwyntio’n bennaf ar famau ac yn methu â chynnwys tadau yn iawn (y term a ddefnyddir yma mewn ystyr gynhwysol). Mae hyn yn mynd yn groes i fuddiannau dynion, menywod a phlant. Mae achosion y… Read More
Y Ddarlith Flynyddol ar Fabwysiadu 2024
Yn dilyn ein cynhadledd hynod lwyddiannus ar fabwysiadu yn 2023, mae’n bleser gennym lansio ein Darlith Flynyddol ar Fabwysiadu 2024. Ein siaradwr gwadd fydd yr Athro Laura Machin o Brifysgol Lancaster, a fydd yn cyflwyno ei gwaith ar y prosiect Adopters Advocacy Project. COFRESTRWCH NAWR. Mae’r Athro Machin – a gafodd ei mabwysiadu yn blentyn… Read More
Digwyddiadau Sydd i Ddod
Dysgwch fwy am ein digwyddiadau a gweminarau sydd ar ddod, a sut y gallwch chi gofrestru, ar y dudalen hon. Am restr o ddigwyddiadau’r gorffennol, ewch i’n harchif.
" alt="thumbnail" />
Gweminar: Cefnogi anghenion pobl am gariad ac agosatrwydd: beth yw rôl gofal cymdeithasol iechyd meddwl?
Bydd y sgwrs hon yn trafod yr angen am gymorth i ddatblygu perthnasoedd rhamantus/clòs cadarnhaol i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl. Bydd yn rhoi trosolwg o'r dystiolaeth gyfredol ynghylch safbwyntiau ymarferwyr a phobl sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl, a'r rhwystrau a'r heriau a welir wrth drafod neu gynnig cymorth yn ymwneud â pherthnasoedd rhamantus neu glòs. Ystyrir modelau gwahanol o ofal a chymorth, a gwersi posibl o sectorau gofal cymdeithasol eraill. Mae'r sgwrs hon yn gobeithio annog trafodaeth ynghylch a ddylai gweithwyr cymdeithasol a staff gofal cymdeithasol siarad â phobl sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl am eu hanghenion a'u dymuniadau o ran perthnasoedd rhamantus neu glòs – ac os felly, sut y gallent wneud hynny a pha gymorth y gellid ei gynnig?
Ar-lein, Teams
13:00
- 22/09/2026
" alt="thumbnail" />
Gweminar: A all cymorth blynyddoedd cynnar effeithio ar ofal cymdeithasol plant?
Mae galw mawr am ofal cymdeithasol plant gan deuluoedd â phlant ifanc: bydd un o bob pum plentyn yn cael eu cyfeirio at wasanaethau gofal cymdeithasol plant cyn pump oed. O ystyried y pwysau hyn, mae’n hanfodol deall a all rhaglenni'r blynyddoedd cynnar leihau'r galw. Bydd yr weminar hon yn cynnwys canfyddiadau o ddwy astudiaeth i fesur effaith gwasanaethau blynyddoedd cynnar sy'n seiliedig ar leoedd ar gyfer teuluoedd plant 0–4 oed sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig yng Nghymru a Gogledd Iwerddon. Gan ddefnyddio data gweinyddol dienw sy'n cwmpasu pob plentyn a aned yng Nghymru a Gogledd Iwerddon, rydyn ni’n ystyried canlyniadau plant a aned mewn ardaloedd a dderbyniodd wasanaethau Dechrau'n Deg neu Gychwyn Cadarn. Defnyddion nhw’r nodweddion polisi diddorol yn y ddwy raglen i greu grwpiau o ardaloedd difreintiedig union yr un fath -- a chafodd rhai ohonyn nhw wasanaethau blynyddoedd cynnar ond nid eraill. Mae hyn yn creu ardaloedd cymharu naturiol ac yn caniatáu inni weld beth yw effeithiau cael eich geni mewn ardal Cychwyn Cadarn neu Ddechrau'n Deg. Mae ein gwaith gyda'n gilydd yn cynnig tystiolaeth gymharol brin ar draws dwy system gyda chyd-destunau a dulliau cenedlaethol gwahanol ar gyfer y blynyddoedd cynnar. Byddwn ni’n trafod canfyddiadau o'r ddwy astudiaeth ar effaith y polisïau hyn ar ofal cymdeithasol plant ar adeg pan mae systemau gofal cymdeithasol yn wynebu pwysau cynyddol a chyfraddau uchel o ymyrraeth ar gyfer plant dan 5 oed.
Ar-lein, Teams
12:00
- 13/10/2026
" alt="thumbnail" />
Gweminar: Canfyddiadau astudiaeth ansoddol Cymru gyfan am fynediad at wasanaethau ar ôl cam-drin plant (SERENA)
Bydd y weminar hon yn cyflwyno canfyddiadau sy'n dod i'r amlwg o astudiaeth achos ansoddol Cymru gyfan, ac adolygiad llenyddiaeth Ewropeaidd gysylltiedig, sy’n rhan o brosiect consortiwm SERENA. Mae SERENA (Assessing and improving access to health and social care SErvices for children RENdered vulnerable by Abuse) yn brosiect consortiwm a gyllidir gan Horizon Europe sy'n dod ag ymchwil ynghyd o 12 o wledydd ledled Ewrop. Mae'r tîm ym Mhrifysgol Caerdydd, ochr yn ochr â phartneriaid yn Nenmarc a Ffrainc, yn gyfrifol am fapio gwasanaethau presennol ar gyfer plant sydd wedi cael eu cam-drin a chanfod rhwystrau rhag cael mynediad at y gwasanaethau hyn. Defnyddiwyd dau ddull i gyflawni hyn: (1) Adolygiad llenyddiaeth systematig o astudiaethau mewn tair gwlad Ewropeaidd (y DU, Denmarc a Ffrainc) gyda'r nod o ddeall rhagor am ymchwil bresennol am argaeledd gwasanaethau a rhwystrau, a (2) chyfweliadau ansoddol ag oedolion a gafodd eu cam-drin yn blant, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol sy'n cynnig gwasanaethau cymorth ar ôl cam-driniaeth yng Nghymru, Denmarc a Ffrainc. Bydd canfyddiadau allweddol yr adolygiad o’r llenyddiaeth a chanfyddiadau sy'n dod i'r amlwg o'r astudiaeth drwy gyfweliad yng Nghymru yn cael eu trafod, ochr yn ochr â dulliau, gwaith cynnwys y cyhoedd, a chynlluniau at y dyfodol ar gyfer yr ymchwil.
Ar-lein, Teams
13:00
- 21/10/2026
" alt="thumbnail" />
Gweminar: Safbwyntiau proffesiynol ar ddefnyddio Storfa Ddiogelu Cymru
Mae Storfa Ddiogelu Cymru yn storfa ddigidol o adolygiadau diogelu o Gymru. Yn hanesyddol, roedd adolygiadau diogelu yng Nghymru yn dod o dan brosesau ar wahân yn dibynnu ar y math o ddioddefwr neu droseddwr, er enghraifft, Adolygiadau Ymarfer Plant, Adolygiadau Ymarfer Oedolion, Adolygiadau Llofruddiaeth Domestig, ac Adolygiadau Llofruddiaeth Iechyd Meddwl. Fodd bynnag, roedd yr adolygiadau hyn yn aml yn cynnwys themâu cyffredin ac weithiau cynhaliwyd sawl adolygiad ar gyfer un digwyddiad. Mewn ymateb i hyn, dechreuodd Llywodraeth Cymru’r Adolygiad Diogelu Unedig Sengl (SUSR), sy’n cwmpasu pob categori o adolygiad diogelu. Mae Canllawiau Statudol yr SUSR yn tynnu sylw at y ffaith y dylai gweithwyr proffesiynol gael mynediad at Storfa Ddiogelu Cymru i gael gwybodaeth berthnasol ym mhob cam o'r broses SUSR. Mae'r weminar hon yn rhoi cyfle i ddysgu sut mae'r system adolygu diogelu gymharol newydd hon yn gweithio'n ymarferol, gan dynnu ar fewnwelediadau proffesiynol gan Gadeirydd ac Adolygydd SUSR profiadol ac arweinydd academaidd Storfa Ddiogelu Cymru. Bydd enghreifftiau o SUSRau diweddar yn dangos sut mae Storfa Ddiogelu Cymru yn hwyluso adolygiadau o ansawdd uwch ac argymhellion mwy cadarn.
Ar-lein, Teams
13:00
- 08/12/2026
Mae ExChange Wales yn dod ag ymchwilwyr blaenllaw, ymarferwyr a defnyddwyr gwasanaeth ynghyd i rannu arbenigedd, tystiolaeth ymchwil a phrofiadau o ofal.
Trwy ein cynadleddau, gweithdai, darlithoedd a seminarau, mae ExChange yn darparu hyfforddiant o ansawdd uchel am ddim i gefnogi datblygiad parhaus gweithwyr proffesiynol gofal cymdeithasol ledled Cymru. Wrth ddenu siaradwyr cenedlaethol blaenllaw, rydym yn dysgu ac yn cynghori ymchwil sy’n effeithio polisi ac ymarfer. Mae ein digwyddiadau a’n hadnoddau yn cyfoethogi sgiliau wrth flaenori profiadau llaw gyntaf pobl â phrofiad o ofal.
Mae ystod o ffyrdd y gallwch chi weithio gydag ExChange. Os ydych chi am gynnal gweithdy ExChange, gweminar, podlediad neu flog, cysylltwch â ni.
Gweminar: Hyrwyddo diwylliant ymchwil ym maes Gofal Cymdeithasol i Oedolion
Hyrwyddo diwylliant ymchwil ym maes Gofal Cymdeithasol i Oedolion – Sut rydyn ni’n gwneud penderfyniadau cadarn heb ddefnyddio’r sylfaen ymchwil? Mae ymarfer a gyfoethogir gan ymchwil bob amser wedi bod yn safon aur ym maes gofal cymdeithasol. Fodd bynnag, mae wedi bod yn her ers tro byd i wneud hynny yn rhan naturiol o’r ymarfer… Read More
Gweminar: Beth sy’n gweithio i wella iechyd meddwl plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal
Gweminar: “Beth sy’n gweithio i wella iechyd meddwl plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal: Tystiolaeth adolygu systematig” Dydd Mawrth, 15 Tachwedd, 16:00-17:00 GMT+1 Crynodeb Mae lles ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn parhau’n bryder mawr. Hyd yma, nid yw wedi bod… Read More

