Mae’r profiad o fod yn blentyn yn y Deyrnas Unedig wedi newid o ran sut mae plant yn cael eu hystyried, eu gwerthfawrogi, a’u gofalu, ac mae llunio polisïau ac ymchwil yn ymwneud â phlant wedi newid yn sylweddol. Mae’r Academi Brydeinig wedi ymgymryd â rhaglen waith sy’n mynd ati i ail-lunio trafodaethau ynghylch plentyndod o fewn yr ecosystem polisi plentyndod ar draws pedair gwlad y DU, ac i chwalu seilos academaidd, polisi a phroffesiynol er mwyn archwilio cysyniadau newydd ynghylch plant wrth lunio polisïau.
Mae Rhaglen Polisïau Plentyndod Cynnar yr Academi Brydeinig yn dod ag ehangder y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol ynghyd yng nghyd-destun plentyndod cynnar. Mae’n galluogi’r Academi Brydeinig i ystyried materion mewn modd eang a rhyngddisgyblaethol a helpu i feithrin rhyngweithio pwysig a chreadigol rhwng gwahanol ddisgyblaethau academaidd, polisïau ehangach a chymunedau proffesiynol.
Mae’r rhaglen hon wedi archwilio gwahanol elfennau o’r newidiadau hyn drwy nifer o weithgareddau ymchwil. Mae’r rhain yn cynnwys adolygiadau o gyd-destunau llunio polisïau ym mhedair gwlad y DU; astudiaethau achos am ddulliau ar draws pedair gwlad y DU ar gyfer plant sy’n gadael gofal a thlodi yn ystod plentyndod, yn ogystal ag effeithiolrwydd y dulliau gwahanol hyn; a chyfres o weithdai i randdeiliaid a gweithgareddau ymgysylltu gyda llunwyr polisïau, ymarferwyr ac academyddion.
Ewch i wefan yr Academi Brydeinig am ragor o wybodaeth am Raglen Polisïau Plentyndod Cynnar.
Adnoddau pellach