Cymerwch ran: Grŵp Cynghori i Ofalwyr Perthnasau Ymchwil a Pholisi

Cyflwyno’r Grŵp Cynghori i Ofalwyr Perthnasau Ymchwil a Pholisi – eich cyfle i wneud gwahaniaeth! Ydych chi’n warcheidwad, perthynas neu ffrind arbennig sy’n gofalu am blant Cymru na all fyw gyda’u rhieni? Fel Gofalwr Perthynas, mae eich profiad a’ch mewnwelediadau yn amhrisiadwy. Dyna pam rydym yn eich gwahodd i fod yn rhan o’n menter newydd gyffrous. Mae… Read More

Deall llwybrau gofal a sefydlogrwydd lleoliadau ar gyfer babanod yng Nghymru

Mae’r cyflwyniad hwn yn darparu tystiolaeth empirig newydd am lwybrau mynediad i ofal, llwybrau drwy ofal, a deilliannau lleoliadau ar gyfer y plant ieuengaf un yn y system ofal yng Nghymru. Drwy fynd i’r afael â chwestiynau am lwybrau gwirfoddol a gorfodol i ofal, mae’n uniongyrchol gysylltiedig â chwestiynau a godwyd yn adroddiad terfynol y… Read More

Ffactorau risg rhieni a’r tebygolrwydd y bydd plant yn dod i ofal.

Mae nifer o broblemau rhieni eisoes wedi bod yn gysylltiedig â phlant sy’n dod i mewn i ofal.  Mae’r rhain yn cynnwys problemau iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau ac anableddau dysgu.  Fodd bynnag, mae llawer o bethau am y berthynas rhwng y materion hyn mewn rhieni a mynediad plant i ofal nad ydynt yn hysbys.  Er… Read More

CADW MEWN CYSYLLTIAD

Bydd hunaniaeth plentyn mabwysiedig bob amser yn cwmpasu sawl elfen ac mae iechyd seicolegol a meddyliol tymor hir plentyn yn dibynnu ar ddod o hyd i atebion i gwestiynau sylfaenol am bwy ydyn nhw. Bydd gan bob plentyn sy’n derbyn gofal gynllun cyswllt, gan gynnwys y rhai sydd i’w mabwysiadu. Gall hyn fod naill ai’n… Read More

Sefydlogrwydd Cynnar

Ymarfer sy’n canolbwyntio ar y plentyn yw Sefydlogrwydd Cynnar sy’n cynnig sefydlogrwydd ar gam cynnar iawn, gan osgoi symudiadau mynych a thrawma yn sgil gwahanu a cholli ffigurau ymlyniad, hyd nes y bydd llys wedi gwneud penderfyniad am gynllun gofal terfynol plentyn. Mae’r angen am gynllunio gofal ansawdd uchel i blant a thracio deublyg yn… Read More

Hil mewn Mabwysiadu, y Presenoldeb Absennol.

Yn y 1960au ystyriwyd nad oedd modd mabwysiadu plant o gefndiroedd Du a Mwyafrif Byd-eang ac anogwyd mabwysiadu traws-hil fel na fyddai’n rhaid i blant aros mewn gofal maeth neu breswyl hirdymor. Ond wrth i dystiolaethau rhai oedolion a fabwysiadwyd yn draws-hiliol gael eu clywed, heriwyd gallu mabwysiadu traws-hil i sicrhau bod plant yn cael… Read More

Harriet Ward Gymrawd Ymchwil Anrhydeddus

Mae Harriet Ward yn Gymrawd Ymchwil Anrhydeddus yng Nghanolfan Rees, Prifysgol Rhydychen ac yn Athro Emeritws ym maes Ymchwil Plant a Theuluoedd ym Mhrifysgol Loughborough, y DU. Mae ganddi dros 30 mlynedd o brofiad o fod yn gyfarwyddwr ymchwil ac ymchwilydd maes, yn gynghorydd i lunwyr polisïau a darparwyr gwasanaethau, ac yn ymarferydd gwaith cymdeithasol.… Read More