Gorbryder mewn pobl ifanc: Deall theori ac atebion ymarferol

Bydd yr hyfforddiant undydd hwn yn cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o orbryder, ac yn helpu i sicrhau atebion ymarferol i gefnogi pobl ifanc. Bydd y cyfranogwyr yn dod yn gyfarwydd â Damcaniaeth Polyvagal a gwaith Dr Stephen Podges, ac â thrawma a gwaith Dr Bessel van der Volk a sut mae trawma’n effeithio ar PTSD ac OCD… Read More

Cynhadledd Pobl a Chartrefi 2023

Am fwy nag ugain mlynedd mae cynhadledd Pobl a Chartrefi Shelter Cymru wedi bod yn ddigwyddiad tai cenedlaethol allweddol yng Nghymru. Eleni maent yn mynd yn fwy ac yn well nag erioed o’r blaen, gan gynnal cynhadledd fwyaf Cymru ar ddigartrefedd. Hwn fydd eu digwyddiad hybrid cyntaf erioed, gan eu galluogi i gyrraedd mwy o bobl a rhannu mwy o ddysgu o bob cwr o Gymru a thu hwnt… Read More

ADHD: Dealltwriaeth i Ymarferwyr

Nod yr hyfforddiant undydd yma yw galluogi staff rheng flaen sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc i sicrhau bod ganddyn nhw ddealltwriaeth gadarn o ADHD, gwerthfawrogiad o’r gwahanol ffyrdd mae’n gallu amlygu ei hun, sy’n effeithio ar asesu a diagnosio plant a phobl ifanc, a hefyd ddealltwriaeth o’r risgiau cyffredinol sy’n gysylltiedig ag ADHD, a’r angen am ymyriadau meddygol a therapiwtig integredig i wella canlyniadau bywyd… Read More

Cefnogi iechyd meddwl a lles pobl ifanc

Nod y cwrs yw archwilio’r amrywiol anawsterau mae pobl ifanc yn eu profi gyda iechyd meddwl a sut mae meithrin gwydnwch a gwella llesiant. Bydd y cwrs yn edrych ar y gwahanol fathau o broblemau iechyd meddwl, yr ymddygiad sy’n gallu cyd-ddigwydd â nhw, a sut mae cefnogi’r person ifanc. Cyflwynir amrywiol ffyrdd o feithrin gwydnwch, a dangos sut mae cynnal llesiant… Read More