Mae ExChange Wales yn dod ag ymchwilwyr blaenllaw, ymarferwyr a defnyddwyr gwasanaeth ynghyd i rannu arbenigedd, tystiolaeth ymchwil a phrofiadau o ofal.
Trwy ein cynadleddau, gweithdai, darlithoedd a seminarau, mae ExChange yn darparu hyfforddiant o ansawdd uchel am ddim i gefnogi datblygiad parhaus gweithwyr proffesiynol gofal cymdeithasol ledled Cymru. Wrth ddenu siaradwyr cenedlaethol blaenllaw, rydym yn dysgu ac yn cynghori ymchwil sy’n effeithio polisi ac ymarfer. Mae ein digwyddiadau a’n hadnoddau yn cyfoethogi sgiliau wrth flaenori profiadau llaw gyntaf pobl â phrofiad o ofal.
Mae ystod o ffyrdd y gallwch chi weithio gydag ExChange. Os ydych chi am gynnal gweithdy ExChange, gweminar, podlediad neu flog, cysylltwch â ni.
Gweminar: 'Food Glorious Food'
Mae’r weminar hon yn cyflwyno’r prosiect Food Glorious Food a ariennir gan y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil ar Iechyd (NIHR), gan gynnig gwybodaeth gynnar o’i werthusiad realaidd. Mae pobl sy'n byw gyda dementia yn wynebu mwy o risg o ddiffyg maeth a dadhydradu. Fodd bynnag, mae mwy o arwyddocâd i fwyd na maeth yn unig – gall ddylanwadu ar les seicogymdeithasol, meithrin ymdeimlad o ddinasyddiaeth a chefnogi hunaniaeth bersonol a diwylliannol. Mae profiadau cadarnhaol yn y meysydd hyn yn hollbwysig i fyw'n dda gyda dementia. Mae'r prosiect Food Glorious Food yn ymchwilio i’r ffordd mae arferion bwyd cymorth grwpiau cymunedol yn effeithio ar bobl o gefndiroedd ac amgylchiadau amrywiol. Dyma gydweithrediad rhwng y Gymdeithas Astudiaethau Dementia (Prifysgol Caerwrangon), Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Rhydychen, a Phrifysgol Wolverhampton. Mae'r prosiect yn defnyddio dulliau ansoddol hyblyg i greu data o grwpiau cymorth cymunedol sy’n ethnig amrywiol. Y nod yw dod o hyd i’r hyn sy'n gweithio, i bwy ac o dan ba amgylchiadau.
Ar-lein
12:00
- 18/03/2025
Gweminar: "Allwch chi ddim gwneud hynny mewn gofal dementia" – cwrdd â heriau gofal dementia cynhwysol.
Mae o leiaf 25,000 o bobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig yn byw gyda dementia yn y DU. Fodd bynnag, mae'n debygol y bydd gwahaniaethau pwysig yn y gwasanaethau y mae pobl o'r cymunedau hyn yn eu derbyn o'u cymharu â'u cymheiriaid gwyn-Prydeinig. Er enghraifft, mae pobl o lawer o gymunedau yn llawer llai tebygol o gael diagnosis o ddementia a phan gânt eu diagnosio, yna mae hyn yn debygol o fod yn ddiweddarach yn y salwch pan fydd ganddynt fwy o amhariad. O ganlyniad, maent yn debygol o golli allan ar dderbyn triniaethau a gymeradwywyd gan NICE, gan gynnwys meddyginiaeth, tra eu bod nhw a'u teuluoedd yn debygol o fyw gyda lefelau cynyddol o straen ac ansicrwydd. Mae gwahaniaethau pwysig hefyd yn y gwasanaethau y mae pobl o'r tair cymuned hyn yn eu derbyn yn ddiweddarach yn y llwybr dementia - gyda defnyddwyr gwasanaeth yn aml yn adrodd nad yw darpariaeth statudol yn bodloni eu hanghenion. Yn hytrach, mae pobl o'r cymunedau hyn yn fwy tebygol o ddibynnu ar sefydliadau lleol, cymunedol y tu allan i'r brif ffrwd dementia i gael cymorth. Un dull amgen o ddarparu gwasanaethau yw i'r GIG ac asiantaethau eraill weithio'n fwyfwy mewn partneriaeth â sefydliadau cymunedol sy'n cynrychioli'r cymunedau hyn. Er bod gan hyn lawer o fanteision posibl, mae llawer o heriau i'r gwaith hwn hefyd - er enghraifft yn aml nid yw gweithwyr cymunedol yn teimlo bod eu harbenigedd yn cael ei werthfawrogi'n ddigonol, na bod y cyfyngiadau ar eu gwaith yn cael eu gwerthfawrogi'n llawn. Bydd y cyflwyniad hwn yn amlinellu'r heriau hyn ac yn amlinellu rhai atebion posibl i'r rhain yn gryno.
Ar-lein
13:00
- 25/03/2025
Gweminar: Ymchwilio i brofiadau pobl LHDTC+ sy'n byw gyda dementia.
Rhoddir mwyfwy o sylw i’r ffaith y caiff ‘lleoliad cymdeithasol’ yr unigolyn (hynny yw, ei oedran, rhywedd, statws economaidd-gymdeithasol, ethnigrwydd, ardal lle mae’n byw, cyfeiriadedd rhywiol a.y.b.) effaith ar ei brofiadau o fyw gyda dementia. I rai, gall hyn arwain at anghydraddoldebau ac achosion o annhegwch a gaiff eu profi gydol y daith o ofalu am ddementia, a hynny o’r cyfnod cyn y diagnosis i’r cyfnod ar ei ôl. Er y gwyddom y gall dementia beri heriau penodol i bobl LHDTC+, prin yw’r gwaith ymchwil a wneir ar y gymuned hon o hyd. Mae yna hefyd brinder o lenyddiaeth sydd wedi rhoi sylw i brofiadau uniongyrchol o bobl LHDTC+ sy'n byw gyda dementia, sy'n golygu nad yw eu straeon wedi'u clywed. Yn y weminar hon, bydd John yn cyflwyno canfyddiadau ei waith ymchwil diweddar sydd wedi canolbwyntio ar ddeall profiadau unigolion LHDTC+ â dementia o iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd yna drafodaeth ar eu straeon cyfoethog ac amrywiol, yn ogystal ag ychydig o arweiniad ar yr arferion gorau i gefnogi unigolion LHDTC+ sy’n byw gyda dementia.
Ar-lein
13:00
- 27/03/2025
Gweminar: Cadw'n iach, cyn, yn ystod ac ar ôl diagnosis dementia i bobl sydd â syndrom Down
Ar-lein
12:00
- 31/03/2025