Cyfle i rannu eich profiadau o adael gwasanaethau gofal yng Nghymru

Er gwaethaf ymdrechion parhaus i bontio’r bwlch rhwng pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal a’u cyfoedion, mae llawer nad ydym yn ei wybod o hyd am y ffactorau sy’n cyfrannu at yr anghydraddoldebau hyn. Nod y gwaith ymchwil hwn yw datblygu gwell dealltwriaeth o sut y gellir datblygu polisïau a strwythurau cymorth yn effeithiol i fynd i’r afael ag anghenion penodol pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal… Read More

Dulliau Celf ar gyfer Hunan-Gynrychioli Myfyrwyr Israddedig

Mae’r llyfr yn cyflwyno ymchwil a gasglwyd ymhlith addysgwyr celfyddydau, a darlithwyr yn y gwyddorau cymdeithasol a’r dyniaethau i gynnig dulliau ymarferol o integreiddio dulliau’r celfyddydau yng nghynnwys rhaglenni a addysgir; a hefyd archwilio sut mae mannau cyfarfod ar gyfer hunan-gynrychiolaeth yn cael eu creu mewn ymarfer celfyddydau allgyrsiol… Read More

Golwg ehangach ar addysg i Blant mewn Gofal

Mae’n hawdd syrthio i’r fagl o gymryd bod addysg ond yn digwydd yn yr ysgol. Fodd bynnag, mae ymchwil Dr Karen Kenny yn amlygu faint o ddysgu sy’n digwydd o amgylch plant, drwy’r amser. Mae’r gwaith hwn yn awgrymu y byddai’n ddefnyddiol mabwysiadu safbwynt ehangach wrth ystyried addysg pobl ifanc sydd yng ngofal y wladwriaeth, gan eu helpu i nodi eu llwyddiannau… Read More

Yr Academi Brydeinig yn lansio Reframing Childhood

Gyda lansiad ‘Reframing Childhood’, adroddiad terfynol rhaglen Polisi Plentyndod yr Academi Brydeinig, mae dros 50 o randdeiliaid plentyndod yn cyfarfod yng Nghanolfan CASCADE ym Mhrifysgol Caerdydd i drafod canfyddiadau’r adroddiad. Mae’r blog hwn yn crynhoi ac yn tynnu sylw at syniadau allweddol a ddaeth i’r amlwg yn ystod y drafodaeth hon… Read More

Rhifyn arbennig newydd o gylchgrawn Ffynnu – Arian, arian, arian! 

Mae’r rhifyn yn ceisio rhoi sylw i rai o’r pryderon a’r ofnau y dywedodd pobl ifanc wrthym sydd ganddynt am arian; ac mae’n edrych ar ba gymorth sydd ar gael i’w helpu – ynghyd â’n holl erthyglau nodwedd, fel ‘Gofynnwch i Matt’ a ‘Bywyd Go Iawn’.  Edrychwn hefyd ar y cynllun peilot incwm sylfaenol i bobl sy’n ymadael â gofal yng Nghymru, ac rydym yn cyfweld ag un o Weinidogion Llywodraeth Cymru i ganfod mwy o wybodaeth… Read More