• Pwysigrwydd perthnasoedd gofalu mewn Unedau Cyfeirio Disgyblion

    Fe wyddom y gall perthnasoedd cefnogol cyson gyda phobl eraill wneud gwahaniaeth enfawr a chadarnhaol i’n bywydau. Ond mae’r mathau hyn o brofiadau perthynas yn aml ar goll i bobl ifanc yn y system ofal. Mae’r astudiaeth hon yn amlygu pwysigrwydd perthnasoedd gofal mewn Unedau Cyfeirio Disgyblion…

  • COVID-19, Addysg a Dysgu: Rhoi Mwy o Lais i Blant Ifanc

    Mae adroddiad newydd wedi’i lansio sy’n cyflwyno canfyddiadau astudiaeth a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ar addysg yn ystod pandemig COVID-19. Rhoddodd yr astudiaeth lwyfan i leisiau plant a chyfleoedd iddynt rannu eu profiadau o’r pandemig…

  • Cyfle i rannu eich profiadau o adael gwasanaethau gofal yng Nghymru

    Er gwaethaf ymdrechion parhaus i bontio’r bwlch rhwng pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal a’u cyfoedion, mae llawer nad ydym yn ei wybod o hyd am y ffactorau sy’n cyfrannu at yr anghydraddoldebau hyn. Nod y gwaith ymchwil hwn yw datblygu gwell dealltwriaeth o sut y gellir datblygu polisïau a strwythurau cymorth yn effeithiol i fynd i’r afael ag anghenion penodol pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal…

  • Dulliau Celf ar gyfer Hunan-Gynrychioli Myfyrwyr Israddedig

    Mae’r llyfr yn cyflwyno ymchwil a gasglwyd ymhlith addysgwyr celfyddydau, a darlithwyr yn y gwyddorau cymdeithasol a’r dyniaethau i gynnig dulliau ymarferol o integreiddio dulliau’r celfyddydau yng nghynnwys rhaglenni a addysgir; a hefyd archwilio sut mae mannau cyfarfod ar gyfer hunan-gynrychiolaeth yn cael eu creu mewn ymarfer celfyddydau allgyrsiol…

  • Golwg ehangach ar addysg i Blant mewn Gofal

    Mae’n hawdd syrthio i’r fagl o gymryd bod addysg ond yn digwydd yn yr ysgol. Fodd bynnag, mae ymchwil Dr Karen Kenny yn amlygu faint o ddysgu sy’n digwydd o amgylch plant, drwy’r amser. Mae’r gwaith hwn yn awgrymu y byddai’n ddefnyddiol mabwysiadu safbwynt ehangach wrth ystyried addysg pobl ifanc sydd yng ngofal y wladwriaeth, gan eu helpu i nodi eu llwyddiannau…

  • Pecyn ‘Ffocws ar y Dyfodol’ i Fusnesau

    Yn ystod cyfarfod diweddar Hyrwyddwyr y Gwanwyn Leicestershire Cares, lansiwyd pecyn gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth o namau ar y golwg yn y gweithle…

  • Yr Academi Brydeinig yn lansio Reframing Childhood

    Gyda lansiad ‘Reframing Childhood’, adroddiad terfynol rhaglen Polisi Plentyndod yr Academi Brydeinig, mae dros 50 o randdeiliaid plentyndod yn cyfarfod yng Nghanolfan CASCADE ym Mhrifysgol Caerdydd i drafod canfyddiadau’r adroddiad. Mae’r blog hwn yn crynhoi ac yn tynnu sylw at syniadau allweddol a ddaeth i’r amlwg yn ystod y drafodaeth hon…

  • Rhifyn arbennig newydd o gylchgrawn Ffynnu – Arian, arian, arian! 

    Mae’r rhifyn yn ceisio rhoi sylw i rai o’r pryderon a’r ofnau y dywedodd pobl ifanc wrthym sydd ganddynt am arian; ac mae’n edrych ar ba gymorth sydd ar gael i’w helpu – ynghyd â’n holl erthyglau nodwedd, fel ‘Gofynnwch i Matt’ a ‘Bywyd Go Iawn’.  Edrychwn hefyd ar y cynllun peilot incwm sylfaenol i bobl sy’n ymadael â gofal yng Nghymru, ac rydym yn cyfweld ag un o Weinidogion Llywodraeth Cymru i ganfod mwy o wybodaeth…

  • Iechyd y meddwl ynghylch pobl ifanc fu o dan ofal

    Dros y misoedd diwethaf hyn, mae Leicestershire Cares wedi bod yn gweithio gyda grŵp o bobl ifanc a fu o dan ofal, gan eu hannog i ystyried rhai o faterion pwysig eu bywydau. Dros nifer o sesiynau, nododd y grŵp mai iechyd y meddwl yw’r prif bryder sy’n effeithio ar eu bywydau ar hyn o bryd…

  • Myfyrwyr sydd â phrofiad o ofal yng Nghymru: o fyfyrwyr i raddedigion

    Mae ymchwil Dr Ceryn Evans ym Mhrifysgol Abertawe yn archwilio profiadau myfyrwyr prifysgol â phrofiad o ofal wrth iddynt lywio drwy’r brifysgol a chychwyn ar gyfnod o bontio o’r brifysgol i fywyd ôl-raddio. Ar hyn o bryd, mae hi’n recriwtio cyfranogwyr i lywio ei hymchwil. Rhagor o wybodaeth am yr ymchwil yma…