Teulu & Chymuned (Page 3)
-
Pecyn ‘Ffocws ar y Dyfodol’ i Fusnesau
Yn ystod cyfarfod diweddar Hyrwyddwyr y Gwanwyn Leicestershire Cares, lansiwyd pecyn gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth o namau ar y golwg yn y gweithle…
-
Yr Academi Brydeinig yn lansio Reframing Childhood
Gyda lansiad ‘Reframing Childhood’, adroddiad terfynol rhaglen Polisi Plentyndod yr Academi Brydeinig, mae dros 50 o randdeiliaid plentyndod yn cyfarfod yng Nghanolfan CASCADE ym Mhrifysgol Caerdydd i drafod canfyddiadau’r adroddiad. Mae’r blog hwn yn crynhoi ac yn tynnu sylw at syniadau allweddol a ddaeth i’r amlwg yn ystod y drafodaeth hon…
-
Rhifyn arbennig newydd o gylchgrawn Ffynnu – Arian, arian, arian!
Mae’r rhifyn yn ceisio rhoi sylw i rai o’r pryderon a’r ofnau y dywedodd pobl ifanc wrthym sydd ganddynt am arian; ac mae’n edrych ar ba gymorth sydd ar gael i’w helpu – ynghyd â’n holl erthyglau nodwedd, fel ‘Gofynnwch i Matt’ a ‘Bywyd Go Iawn’. Edrychwn hefyd ar y cynllun peilot incwm sylfaenol i bobl sy’n ymadael â gofal yng Nghymru, ac rydym yn cyfweld ag un o Weinidogion Llywodraeth Cymru i ganfod mwy o wybodaeth…
-
Iechyd y meddwl ynghylch pobl ifanc fu o dan ofal
Dros y misoedd diwethaf hyn, mae Leicestershire Cares wedi bod yn gweithio gyda grŵp o bobl ifanc a fu o dan ofal, gan eu hannog i ystyried rhai o faterion pwysig eu bywydau. Dros nifer o sesiynau, nododd y grŵp mai iechyd y meddwl yw’r prif bryder sy’n effeithio ar eu bywydau ar hyn o bryd…
-
Myfyrwyr sydd â phrofiad o ofal yng Nghymru: o fyfyrwyr i raddedigion
Mae ymchwil Dr Ceryn Evans ym Mhrifysgol Abertawe yn archwilio profiadau myfyrwyr prifysgol â phrofiad o ofal wrth iddynt lywio drwy’r brifysgol a chychwyn ar gyfnod o bontio o’r brifysgol i fywyd ôl-raddio. Ar hyn o bryd, mae hi’n recriwtio cyfranogwyr i lywio ei hymchwil. Rhagor o wybodaeth am yr ymchwil yma…
-
Yr argyfwng costau byw a’i effaith ar addysg
Mae’r argyfwng costau byw wedi bod yn bwnc llosg ers misoedd, wrth i brisiau godi a llawer o deuluoedd yn ei chael hi’n anodd gwneud i’w hincwm ymestyn. Ond gwyddom lawer llai hyd yn hyn am sut mae’r pwysau ariannol ehangach hynny yn effeithio ar blant yn yr ystafell ddosbarth. Mae gwaith ymchwil diweddaraf Ymddiriedolaeth Sutton yn edrych ar y cwestiwn hollbwysig hwnnw…
-
Teuluoedd sy’n gwahanu: Profiadau o wahanu a chymorth
Mae adroddiad newydd wedi’i lansio, sy’n darparu tystiolaeth gan rieni a’u plant am eu profiadau pan wahanodd eu rhieni…
-
‘Llywio’r Storm’: animeiddiad byr am brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod
Mae myfyrwyr o Brifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi cynhyrchu animeiddiad byr, ‘Llywio’r Storm’ sydd â’r nod o godi ymwybyddiaeth o effaith…
-
CLASS Cymru: Cefnogi pobl sydd â phrofiad o ofal i gael addysg uwch yng Nghymru
Staff o CASCADE a Chanolfan Bywyd y Myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wefan newydd i helpu pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yng Nghymru a’r rhai sy’n eu cefnogi i ddysgu mwy am addysg uwch a phontio i’r brifysgol…
-
Plentyndod Chwareus – hyrwyddo plentyndod ‘llawn’ o chwarae
Mae ymgyrch Plentyndod Chwareus Chwarae Cymru yn anelu i helpu rhieni, gofalwyr a grwpiau cymunedol i gynnig rhagor o gyfleoedd i blant chwarae yn eu cartrefi ac yn eu cymdogaethau…