Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu hyfforddiant ar gyfer gweithwyr rheng flaen sy’n cynyddu eu dealltwriaeth o’r budd-dal lles a’r cymorth ariannol ehangach sydd ar gael. Mae hwn yn gwrs lefel mynediad sy’n ymdrin â gwybodaeth sylfaenol am y system fudd-daliadau a chymorth arall sydd ar gael… Read More
Adfer straeon anghofiedig
Bydd y gweithdy rhyngweithiol hwn ar-lein yn annog oedolion sydd â diddordeb yn niwylliant, hanes neu dreftadaeth Cymru i ehangu eu gwybodaeth trwy archwiliad systematig o chwedlau ac adrodd straeon oes yr haearn. Mae’n gwrs ymarferol yn ogystal â damcaniaethol, gyda chyfranogwyr yn creu eu naratifau oes haearn eu hunain, neu’n eu hail-greu o ffynonellau sydd eisoes yn bodoli… Read More
Grŵp Ymchwil Plentyndod ac Ieuenctid
Bydd y digwyddiad hwn yn trafod CAPVA, ac yn seiliedig ar astudiaeth o saith ymarferydd ledled Cymru, mae’n archwilio dulliau effeithiol o wneud ymchwil … Read More
Cyfranogiad a Chynllunio mewn Addysg
Bydd y cwrs yma’n helpu’r cyfranogwyr i ddeall y dyletswyddau sydd ar gyrff cyfrifol o dan y Ddeddf ADY ac archwilio pwysigrwydd a manteision cyfranogiad trwy ddull person-ganolog o gynllunio. Mae’r cwrs yma’n addas i unrhyw un sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd ag ADY, neu’n eu cefnogi, gan gynnwys eu teuluoedd… Read More
System Anghenion Dysgu Ychwanegol: Trosolwg
Bydd y cwrs yma’n helpu cyfranogwyr i ddatblygu dealltwriaeth o’r system newydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) er mwyn cefnogi plant a phobl ifanc 0-25 yng Nghymru sydd ag ADY. Mae’r cwrs yma’n addas ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc ag ADY, neu’n eu cefnogi, gan gynnwys eu teuluoedd… Read More
Asesiadau Iechyd Oedolion
Mae dadansoddi asesiadau iechyd oedolion yn elfen allweddol wrth asesu mabwysiadwyr a gofalwyr maeth. Mae hyn yn cynnwys llunio adroddiadau a sylwadau ar sail tystiolaeth er mwyn i baneli allu wneud penderfyniadau priodol. Bydd y gweithdy hwn yn ystyried rôl y Cynghorydd Meddygol wrth wneud asesiadau iechyd oedolion ar gyfer gofalwyr maeth a rhieni sy’n mabwysiadu… Read More
Asesiadau Iechyd Plant
Mae asesiadau iechyd plant yn elfen allweddol i gyflwyno sefydlogrwydd i blant sy’n derbyn gofal. Mae hyn yn cynnwys darparu adroddiadau am effaith hanes cyn-geni plentyn, ei iechyd yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol. Bydd y cwrs hwn yn ystyried rôl y Cynghorydd Meddygol gyda mabwysiadu sy’n ymwneud â phlant… Read More
Arweinyddiaeth gynhwysol
Gweithdy 45 munud am ddim i archwilio ffactorau allweddol sy’n cyfrannu at adeiladu amgylchedd cynhwysol ac arweinyddiaeth gynhwysol… Read More
Cyflwyniad i gyllidebu ar sail rhywedd
Mae’r gweminar hwn yn cyflwyno’r cysyniad o gyllidebu ar sail rhyw, yn amlygu rhai o’i nodweddion allweddol, a bydd yn eich helpu i ddeall sut mae cyllidebu ar sail rhyw yn arf pwysig i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb… Read More
Effeithiau’r argyfwng costau byw o ran rhywedd
Nid yw effeithiau’r argyfwng costau byw yn taro’n gyfartal ar draws ein cymdeithas. Gwyddom fod menywod yn fwy agored i effeithiau’r argyfwng costau byw. Ymunwch â ni am drafodaeth banel ar effeithiau’r argyfwng costau byw o ran rhywedd ar a’r ymateb polisi sydd ei angen i sicrhau bod pawb yn y gymdeithas yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt… Read More
