Gwisgoedd ysgol am fod yn fwy fforddiadwy

Mae Kirsty Williams AC wedi cyhoeddi arweiniad statudol i wneud gwisgoedd ysgol yn fwy fforddiadwy, hygyrch, a niwtral o ran rhywedd.Daw arweiniad newydd Llywodraeth Cymru i rym ar 1 Medi 2019 ac mae’n rhoi cyngor i gyrff llywodraethu a phenaethiaid ar faterion sy’n ymwneud â pholisi gwisg ysgol. Nid oedd yr arweiniad blaenorol a gyhoeddwyd… Read More

Ymateb i faterion hunan-niweidio a meddyliau o hunanladdiad ymhlith pobl ifanc: arweiniad i athrawon, gweithwyr proffesiynol, gwirfoddolwyr a gwasanaethau ieuenctid

Mae’r arweiniad hwn yn rhoi gwybodaeth i oedolion sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc ynghylch sut i ymateb i faterion hunanladdiad a hunan-niweidio. Mae’n egluro sut i ateb cwestiynau gan blant a phobl ifanc a allai fod yn ystyried lladd eu hunain neu’n hunan-niweidio, a sut i ymateb pan mae’r teimladau a’r ymddygiadau hyn… Read More

Cadernid meddwl. Adroddiad am y newid mawr sydd ei angen o ran cefnogaeth ym maes iechyd emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc yng Nghymru

Mae’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn nodi bod angen buddsoddi ar frys mewn gwasanaethau ataliol ac ymyrryd yn gynnar. Mae’r Pwyllgor yn credu y gallai’r gofid y mae llawer o blant a phobl ifanc yn ei oddef gael ei leihau neu hyd yn oed ei osgoi drwy eu galluogi i fanteisio ar y… Read More

O’r bol i’r babi: gofal iechyd meddwl amenedigol yng Nghymru

Yn ystod y cyfnod amenedigol, o feichiogrwydd hyd at flwyddyn ar ôl rhoi genedigaeth, gall sawl problem iechyd meddwl effeithio ar fenywod. Mae’r rhain yn cynnwys: iselder, gorbryder, anhwylder obsesiynol cymhellol (OCD), anhwylder straen wedi trawma (PTSD), anhwylderau bwyta a seicosis ôl-enedigol. Cyfeirir at y cyflyrau hyn fel cyflyrau iechyd neu salwch amenedigol. Mae’r adroddiad… Read More

Crynodeb Pobl Ifanc: Flwyddyn yn Ddiweddarach – Codi uchelgais a chyrhaeddiad addysgol plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru – Adroddiad Cryno

Mae’r ddogfen hon i bobl ifanc, sy’n hawdd ei darllen, yn crynhoi rhaglen Llywodraeth Cymru a’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni camau gweithredu o fewn ei chwe thema allweddol i ysgogi gwelliannau yn neilliannau addysgol plant sydd â phrofiad o ofal. Mae’n crynhoi’r hyn a gyflawnwyd o dan y rhaglen o fis Chwefror 2016 tan… Read More