Hawliau pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal 

A minnau’n Gomisiynydd annibynnol Pobl Hŷn Cymru, fy rôl i yw amddiffyn a hyrwyddo hawliau pobl hŷn. Mae hyn yn rhan annatod o’m holl waith a’m blaenoriaethau — o fynd i’r afael â gwahaniaethu ar sail oedran, atal camdriniaeth, i alluogi pobl i heneiddio’n dda. Ar adegau yn ein bywydau gall fod yn arbennig o bwysig ein bod yn gwybod ein hawliau — ac un o’r adegau hyn yw pan fyddwn ni, neu rywun yr ydym yn ei garu, yn symud i gartref gofal.  Read More

The Museum of Nothingness: Profiad realiti estynedig rhad ac am ddim

The Museum of Nothingness yn profiad realiti estynedig (AR) ymdrochol newydd sy’n eich galluogi i gamu i mewn i feddwl Connor Allen, creawdwr The Making of a Monster. Mae’r sioe grime-theatr fyw The Making of a Monster (9–19 Tachwedd, Stiwdio Weston) yn rhannu stori bersonol Connor am dyfu i fyny fel person hil gymysg yng Nghasnewydd a dod o hyd i’w hunaniaeth. Read More