Mae lles i fod wrth wraidd gwasanaethau i blant ac oedolion yng Nghymru – ac eto prin yw’r ymchwil ar les plant mewn gofal. Pa mor hapus a bodlon yw plant mewn gofal yng Nghymru – yn enwedig o gymharu â phlant eraill? Mae’r seminar hon yn adrodd ar ymchwil sy’n cymharu plant mewn gofal… Read More
Ydy gofal awdurdod lleol yn gwneud gwahaniaeth i fywyd plant sy’n agored i niwed? Dadansoddiadau hydredol o garfan electronig ôl-weithredol
Nod yr ymchwil arfaethedig yw ymchwilio, dros gyfnod o amser, i ddeilliannau addysg ac iechyd plant sy’n derbyn gofal (CLA) gan yr awdurdod lleol (h.y. dan ofal). Mae astudiaethau presennol sy’n defnyddio un pwynt yn unig mewn amser wedi dangos nad yw deilliannau addysg ac iechyd plant sy’n derbyn gofal cystal o gymharu â’r boblogaeth gyffredinol.… Read More
Here2there.me – Ap ar gyfer cynllunio personol a chofnodi deilliannau
Mae H2t.me yng ngham olaf ei ddatblygiad sy’n cynnwys treialon ar draws ystod o wasanaethau yng Nghymru ac mae wedi ennill her SBRI Llywodraeth Genedlaethol Cymru o’r enw Bywydau Gwell yn Nes at y Cartref. Mae wedi cael ei dreialu ynghylch anabledd dysgu, gwasanaethau plant a chymorth yn y gwaith. Mae’r Ap yn cefnogi unrhyw… Read More
Cyfweld Ysgogiadol ar gyfer gweithio gyda phlant a theuluoedd – sgwrs
Bellach, mae MI (Cyfweld Ysgogiadol) yn cael ei ddefnyddio’n helaeth mewn gwasanaethau plant, gan chwarae rhan allweddol mewn ymyriadau megis Llysoedd Cyffuriau ac Alcohol Teulu, y model Diogelu Teuluol a Thimau Cefnogi Teuluoedd Dwys. Yn y sesiwn hon Roedd Steve Rollnick (cyd-grëwr Cyfweld Ysgogiadol) yn siarad â Donald Forrester, David Wilkins a Charlotte Whittaker am… Read More
Anghydraddoldebau iechyd a gofal dementia: beth sy’n bwysig i bobl sy’n byw gyda dementia a’u teuluoedd?
Prin iawn yw’r hyn rydym yn ei wybod am brofiadau o dementia a’r heriau ychwanegol sy’n wynebu cymunedau sydd â sawl hunaniaeth sy’n gysylltiedig â chefndir ethnig, rhywioldeb ac anabledd. Yn y sesiwn hon byddwch yn clywed am brosiect a oedd â’r nod o fynd i’r afael â’r bwlch sylweddol hwn wrth ymgysylltu a deall… Read More
10,000 o leisiau: Safbwyntiau plant sy’n derbyn gofal a phobl ifanc ynghylch eu lles
Dechreuodd y rhaglen Bright Spots yn 2013, a’i nod oedd deall profiad plant a phobl ifanc o ofal. Mae’r rhaglen yn defnyddio pedwar arolwg lles ar-lein i geisio safbwyntiau plant sy’n derbyn gofal (rhwng 4 a 7 oed a rhwng 8 a 10 oed), pobl ifanc (rhwng 11 a 18 oed) ac ymadawyr gofal (rhwng 18… Read More
Profiadau Gofalwyr Di-dâl yn ystod y Pandemig a Thu Hwnt
Mae’r system iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig yn dibynnu ar ofalwyr di-dâl. Fel rhan o’n gynhadledd llesiant, mae Dr Jen Lyttleton-Smith yn siarad am astudiaeth sydd wedi ffurfio adroddiad am gofalwyr di-dâl yn ystod y pandemic gyda COVID-19 ac mae Dr Dan Burrows yn siarad efo Chris Williamson. Read More
Gweithdy Lles BASW Cymru – Gweithredu ‘Pecyn Cymorth Arfer Da Lles ac Amodau Gwaith Gweithwyr Cymdeithasol’ BASW
Yn y gweithdy hwn byddwn yn trin a thrafod beth mae lles yn ei olygu i weithwyr cymdeithasol, gan edrych ar y gwahaniaethau rhwng lles hedonistaidd ac eudaimonic a beth mae hynny’n ei olygu i chi yn ymarferol. Byddwn yn defnyddio ‘Pecyn Cymorth Arfer Da Lles ac Amodau Gwaith Gweithwyr Cymdeithasol’ BASW https://www.basw.co.uk/social-worker-wellbeing-and-working-conditions fel fframwaith i’ch helpu chi i… Read More
Deilliannau lles – eu mesur a’u dehongli
Mae dull sy’n canolbwyntio ar ddeilliannau wedi cael ei hyrwyddo ers blynyddoedd lawer, ynghyd ag ymdrechion i’w cofnodi’n ystyrlon. Weithiau, mae pwyslais cryf ar ddeilliannau newid sy’n canolbwyntio ar adsefydlu wedi arwain at ddeilliannau dan arweiniad ymarferwyr yn hytrach na deilliannau personol. Mae hefyd wedi arwain at esgeuluso deilliannau pwysig eraill o ran lles, yn… Read More
Gwrth-Hiliaeth mewn Gwaith Cymdeithasol
Mae Wayne Reid yn Swyddog Proffesiynol gyda Chymdeithas Gwaith Cymdeithasol Prydain (BASW). Mae’n cael ei gydnabod yn eang am fod yn siaradwr ysbrydoledig ac yn ymgyrchydd dros gydraddoldeb hiliol. Yn y gweminar hwn, y cyntaf yn ein cyfres #blacklivesmatter, bydd Wayne yn myfyrio ar fudiad #blacklivesmatter ac ystyr gwrth-hiliaeth – y gred bod pob hil… Read More