Mae rhaglenni Grant Plant a Chymunedau Llywodraeth Cymru yn ceisio mynd i’r afael ag anghenion cymorth y plant a’r oedolion sydd mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau trwy ystod o fecanweithiau ymyrraeth gynnar, atal a chymorth. Mae’n ceisio lliniaru neu gael gwared ar anfantais i bobl sy’n agored i niwed i’w galluogi i gael yr un cyfleoedd bywyd ag eraill ac felly cyfrannu at Gymru mwy cyfartal.

Dyma’r wyth rhaglen o fewn y grant:

  • Gofal Plant a Chwarae (gan gynnwys y Rhaglen Hyfforddiant a Chymorth)
  • Teuluoedd yn Gyntaf
  • Dechrau’n Deg
  • Cymorth Rhianta ar gyfer Datrysiadau y Tu Allan i’r Llys
  • Hybu Ymgysylltiad Cadarnhaol ymhlith Pobl Ifanc (Sydd Mewn Perygl o Droseddu)
  • Cronfa Dydd Gŵyl Dewi
  • Prosiect Gwyliau Gwaith Chwarae
  • Grant Cymorth Rhianta Ymyrraeth Gynnar

Mae rhaglenni Grant Plant a Chymunedau yn cefnogi awdurdodau lleol i ystyried sut i gynnal y gwasanaethau y maent yn eu darparu’n fwy strategol trwy hyblygrwydd y grantiau hyn. Gall y rhaglenni grant gefnogi a hyrwyddo cynllunio a chomisiynu ar y cyd i wneud defnydd mwy effeithiol o gyllid CCG wrth geisio cyflawni nodau ac amcanion y rhaglenni cyfansoddol. Disgwylir y bydd y grantiau hyn yn darparu dull mwy strategol i gyfranogwyr gyflawni ar gyfer y rhai sydd fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas.

Ewch i Gyngor ac arweiniad Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau’n Deg ar gyfer COVID-19.


Astudiaethau achos


Conwy

Mae Canolfannau Teuluoedd yn rhoi cefnogaeth i deuluoedd yn eu cymunedau lleol – y cymorth cywir ar yr adeg gywir. Drwy gyfnod Covid-19, rydym wedi dod o hyd i atebion arloesol drwy weithio mewn partneriaeth ag eraill. Fe wnaethom weithio gyda Chastell Conwy fel eu bod yn gallu agor i deuluoedd unigol oedd â phlant ag anghenion ychwanegol a rhoi profiad iddynt na fyddent fel arfer yn ei gael. Fe wnaethom hefyd weithio gydag ysgolion oedd wedi cau yn ystod y cyfnod clo er mwyn cynnig eu meysydd chwarae i deuluoedd nad oedd ganddynt fynediad at le yn yr awyr agored. Rydym yn gweithio gyda banciau bwyd a’r Tîm Lles i ddosbarthu poptai araf, cynhwysion a ryseitiau i deuluoedd. Rydym yn datblygu prosiect cyfnewid dillad gydag elusennau lleol a grwpiau cymunedol, sydd â buddion ariannol ac amgylcheddol. Rydym hefyd yn cyflwyno gweminarau a chlipiau fideo byrion gyda phartneriaid arbenigol. I gael rhagor o wybodaeth am ein gwasanaethau, ewch i FamilyLife.

Blaenau Gwent

Cyn y Nadolig, cynhaliodd Teuluoedd yn Gyntaf, ar y cyd â Thîm Anabledd 0-25 Blaenau Gwent, dair sesiwn flasu ar gyfer grŵp celf a chrefft newydd, a gynhaliwyd yng Nghanolfan Adnoddau Rasau yng Nglyn Ebwy ar gyfer oedolion ifanc ag anabledd, rhwng 16 a 25 oed.

Mae’r grŵp yn cael ei hwyluso gan Chris Walters sy’n artist lleol ym Mlaenau Gwent gyda chyfoeth o wybodaeth. Mae’r swydd yn berffaith iddo – fe wnaeth sawl person ei argymell yn fawr ac mae wedi rhagori ar ein disgwyliadau. Mae Teuluoedd yn Gyntaf a’r Tîm Anabledd yn cefnogi Chris gyda’r sesiynau bob wythnos.

Cafodd y bwlch yn y gwasanaeth ei nodi a’i drafod mewn cyfarfod ‘pob peth anabledd’ – yna buom yn gweithio i bontio’r bwlch hwnnw ac yn ffodus, rydym wedi cael ymateb gwych iddo. Mae gennym dros 12 o bobl ifanc yn cymryd rhan bob wythnos ac rydym yn rhagweld y bydd mwy yn ymuno â’r grŵp dros yr wythnosau nesaf.

Rydym yn falch fod y gymuned leol wedi ymgysylltu â’r prosiect ac mae’n parhau y tu hwnt i’r cyfranogwyr; rydym wedi cael ychydig o ymholiadau gan bobl sy’n byw yn yr ardal leol a fyddai’n hoffi gwirfoddoli – rhannwyd gwybodaeth am y prosiect newydd drwy GAVO ac mae pobl caredig iawn yn cynnig eu gwasanaethau ac eisiau cymryd rhan – mae’r broses hon yn mynd yn ei blaen o hyd.

Nod y grŵp oedd rhoi llais, annibyniaeth, pwrpas a chyfle i’r oedolion ifanc hyn ddysgu sgiliau newydd a gwneud ffrindiau newydd – mae’n hollbwysig bod gwasanaethau fel hyn ar gael i sicrhau bod oedolion ifanc ag anableddau yn cael mynegi eu barn, cael eu cynnwys yn ein cymuned leol, a’u bod yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn cael eu hysbrydoli.

Mae’r grŵp hwn yn cael ei ariannu tan fis Mawrth 2022, ond rydym yn gobeithio ac yn rhagweld y byddwn yn gweithio y tu hwnt i’r dyddiad hwn i barhau â’i lwyddiant gwych.