Pecyn ‘Ffocws ar y Dyfodol’ i Fusnesau

Pecyn Leicestershire Cares ar gyfer codi ymwybyddiaeth o nam ar y golwg yn y gweithle. Mae’r pecyn yn rhoi manylion am y prosiect cyflogadwyedd, y cyd-destun a’r llwyddiannau. Mae’n cynnig gwybodaeth fanwl am Arferion Iechyd a Diogelwch, ystyriaethau allweddol i gydweithwyr a rheolwyr, a chyfeirio at ffynonellau cymorth a gwybodaeth… Read More

Cyfle i rannu eich profiadau o adael gwasanaethau gofal yng Nghymru

Er gwaethaf ymdrechion parhaus i bontio’r bwlch rhwng pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal a’u cyfoedion, mae llawer nad ydym yn ei wybod o hyd am y ffactorau sy’n cyfrannu at yr anghydraddoldebau hyn. Nod y gwaith ymchwil hwn yw datblygu gwell dealltwriaeth o sut y gellir datblygu polisïau a strwythurau cymorth yn effeithiol i fynd i’r afael ag anghenion penodol pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal… Read More

Dulliau Celf ar gyfer Hunan-Gynrychioli Myfyrwyr Israddedig

Mae’r llyfr yn cyflwyno ymchwil a gasglwyd ymhlith addysgwyr celfyddydau, a darlithwyr yn y gwyddorau cymdeithasol a’r dyniaethau i gynnig dulliau ymarferol o integreiddio dulliau’r celfyddydau yng nghynnwys rhaglenni a addysgir; a hefyd archwilio sut mae mannau cyfarfod ar gyfer hunan-gynrychiolaeth yn cael eu creu mewn ymarfer celfyddydau allgyrsiol… Read More

Golwg ehangach ar addysg i Blant mewn Gofal

Mae’n hawdd syrthio i’r fagl o gymryd bod addysg ond yn digwydd yn yr ysgol. Fodd bynnag, mae ymchwil Dr Karen Kenny yn amlygu faint o ddysgu sy’n digwydd o amgylch plant, drwy’r amser. Mae’r gwaith hwn yn awgrymu y byddai’n ddefnyddiol mabwysiadu safbwynt ehangach wrth ystyried addysg pobl ifanc sydd yng ngofal y wladwriaeth, gan eu helpu i nodi eu llwyddiannau… Read More

COVID–19, Addysg a Dysgu: Codi Lleisiau Plant Ifanc

Adroddiad yw’r ddogfen hon ar astudiaeth a geisiodd godi lleisiau plant ifanc, a oedd rhwng 3 a 6 oed yn ystod pandemig COVID-19, am eu profiadau o addysg bryd hynny. Mae’r adroddiad yn manylu ar y fethodoleg a ddefnyddiwyd yn ystod yr astudiaeth, sy’n cynnwys defnyddio dulliau creadigol a chyfranogol sydd wedi’u cynllunio i sicrhau y gallai ymchwilwyr glywed profiadau’r plant ifanc a’u cofnodi… Read More

Yr Academi Brydeinig yn lansio Reframing Childhood

Gyda lansiad ‘Reframing Childhood’, adroddiad terfynol rhaglen Polisi Plentyndod yr Academi Brydeinig, mae dros 50 o randdeiliaid plentyndod yn cyfarfod yng Nghanolfan CASCADE ym Mhrifysgol Caerdydd i drafod canfyddiadau’r adroddiad. Mae’r blog hwn yn crynhoi ac yn tynnu sylw at syniadau allweddol a ddaeth i’r amlwg yn ystod y drafodaeth hon… Read More

Rhifyn arbennig newydd o gylchgrawn Ffynnu – Arian, arian, arian! 

Mae’r rhifyn yn ceisio rhoi sylw i rai o’r pryderon a’r ofnau y dywedodd pobl ifanc wrthym sydd ganddynt am arian; ac mae’n edrych ar ba gymorth sydd ar gael i’w helpu – ynghyd â’n holl erthyglau nodwedd, fel ‘Gofynnwch i Matt’ a ‘Bywyd Go Iawn’.  Edrychwn hefyd ar y cynllun peilot incwm sylfaenol i bobl sy’n ymadael â gofal yng Nghymru… Read More