Myfyrwyr sydd â phrofiad o ofal yng Nghymru: o fyfyrwyr i raddedigion

Mae ymchwil Dr Ceryn Evans ym Mhrifysgol Abertawe yn archwilio profiadau myfyrwyr prifysgol â phrofiad o ofal wrth iddynt lywio drwy’r brifysgol a chychwyn ar gyfnod o bontio o’r brifysgol i fywyd ôl-raddio. Ar hyn o bryd, mae hi’n recriwtio cyfranogwyr i lywio ei hymchwil. Rhagor o wybodaeth am yr ymchwil yma… Read More

Adnoddau barddoniaeth i hwyluso trafodaeth ar iechyd meddwl 

Mae’r pedair cerdd hyn yn archwilio realiti dyddiol a strategaethau sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl. Mae pob cerdd wedi’i hysgrifennu gan ddefnyddio’r dyfyniadau uniongyrchol gan y cyfranogwyr ymchwil a fu’n ymwneud â PhD Bridget Handley sy’n ymchwilio i deithiau iechyd meddwl pobl ifanc â phrofiad o ofal sy’n byw yng Nghymru… Read More

Yr argyfwng costau byw a’i effaith ar addysg

Mae’r argyfwng costau byw wedi bod yn bwnc llosg ers misoedd, wrth i brisiau godi a llawer o deuluoedd yn ei chael hi’n anodd gwneud i’w hincwm ymestyn. Ond gwyddom lawer llai hyd yn hyn am sut mae’r pwysau ariannol ehangach hynny yn effeithio ar blant yn yr ystafell ddosbarth. Mae gwaith ymchwil diweddaraf Ymddiriedolaeth Sutton yn edrych ar y cwestiwn hollbwysig hwnnw… Read More

Deall Lleoedd Cymru

Mae Deall Lleoedd Cymru yn rhoi data defnyddiol a gwybodaeth ddaearyddol i chi am eich tref neu ardal leol. Mae’r graffeg, y mapiau a’r canllawiau ar y wefan wedi cael eu datblygu i’ch galluogi i archwilio’r data sydd ei angen arnoch i’ch helpu i nodi cyfleoedd i’ch cymuned leol a gwneud gwahaniaeth yn y lle rydych chi’n byw neu’n gweithio… Read More